Dedfrydu cyfarwyddwr cwmni wedi marwolaeth saer coed 18 oed o Fôn

s4c

Mae cwmni rheoli eiddo wedi’i ddirwyo a’i gyfarwyddwr rheoli wedi’i ddedfrydu i gyfnod o garchar wedi’i ohirio ar ôl marwolaeth saer coed 18 oed o Fôn.

Bu farw Chloe Bidwell o Fae Trearddur ar 20 Rhagfyr 2023 ar ôl i fwrdd plastr ddisgyn arni hi mewn tŷ yr oedd hi’n gweithio ynddo ar Ffordd Deiniol, Bangor.

Fel prentis saer, roedd hi wedi ennill gwobrau cenedlaethol am ei gwaith tra'n astudio yng Ngholeg Menai yn y ddinas.

Roedd hi newydd ddechrau chwarae i dîm rygbi merched hŷn MônStars cyn ei marwolaeth, ac roedd hefyd wedi chwarae i Rygbi Gogledd Cymru.

Plediodd y cwmni Varcity Living Limited, o Stryd Fawr, Bangor, yn euog i dorri Adrannau 2(1) a 3(1) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.

Cafodd y cwmni ddirwy o £50,000 a gorchymyn i dalu £10,080 mewn costau yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Iau.

Plediodd David Horrocks, o Felinheli, yn euog i dorri Adran 37 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974.

Cafodd ei ddedfrydu i 26 wythnos o garchar, wedi'i ohirio am ddwy flynedd, a gorchmynnwyd iddo dalu £7,886 mewn costau.

Risg heb ei gofnodi

Roedd Miss Bidwell wedi bod yn gweithio ar ei phen ei hun ar adeg y digwyddiad. Roedd yr eiddo yn cael ei adnewyddu'n llwyr pan syrthiodd pentwr o ddeunydd bwrdd pren, gan anafu Miss Bidwell yn angheuol.

Roedd Miss Bidwell wedi bod yn gweithio ar ei phen ei hun ar adeg y digwyddiad a chafodd ei darganfod yn farw yn yr eiddo ar ôl iddi fethu ag ymateb i negeseuon na dychwelyd adref. 

Roedd cymysgedd o ddeunyddiau bwrdd wedi'u pentyrru'n fertigol ac heb eu sicrhau yn erbyn wal. Credir ei bod hi o bosibl wedi bod yn ceisio nôl bwrdd pren haenog o'r pentwr pan syrthiodd rhai o'r byrddau arni, gan dorri ei gwddf ac achosi anafiadau angheuol. 

Roedd 28 o fyrddau i gyd, o ddimensiynau mawr ac o bosibl yn pwyso hyd at 30kg yr un. Ni wnaed unrhyw ymgais i sicrhau'r byrddau yn eu safle unionsyth, ac nid oedd y risg y byddent yn cwympo wedi'i nodi.

Fe wnaeth ymchwiliad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ganfod fod y cwmni a’i gyfarwyddwr wedi methu â darparu systemau gwaith diogel, gwybodaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant a goruchwyliaeth.

Yn benodol, dywedodd yr ymchwiliad nad oedd goruchwyliaeth ddigonol ar y safle, nad oedd polisi na gweithdrefn addas ar gyfer gweithio ar eich pen eich hun, nad oedd polisi na gweithdrefn addas ar gyfer storio deunyddiau bwrdd, ac nad oedd asesiad risg digonol cyn y digwyddiad.

'Poen annioddefol'

Ar ôl y ddedfryd ddydd Iau, dywedodd mam Chloe, Clare Stephenson-Brown, fod marwolaeth ei merch wedi achosi "poen annioddefol" i'r teulu.

"Dim ond 18 oed oedd Chloe, yn llawn bywyd, egni, a phenderfyniad. Roedd ganddi gymaint o dalentau a breuddwydion: saer coed medrus, chwaraewr rygbi, syrffiwr, neidiwr awyr, a menyw ifanc a oedd ar fin teithio'r byd a dechrau ei thaith tuag at fod yn ddiffoddwr tân," meddai.

"Mae'r ffaith ei bod ar ei phen ei hun yn yr eiliadau olaf hynny yn rhywbeth sy'n achosi poen annioddefol i ni a rhywbeth y byddwn ni’n ei gario am byth. Mae gwybod pa mor llawn bywyd oedd hi a faint nad oedd hi wedi'i brofi eto yn gwneud ei cholled yn amhosibl i'w derbyn."

"Fel teulu, rydym yn gobeithio na chaiff yr achos hwn ei ystyried o ran y canlyniad yn y llys yn unig, ond fel atgof llym o'r gost ddynol wirioneddol y tu ôl iddo.

"Mae effaith colli Chloe yn ymestyn ymhell y tu hwnt i unrhyw ddedfryd a bydd yn aros gyda ni am byth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.