Lilly Jones: Teyrnged teulu i’r ‘ferch fach fwyaf prydferth’

Lilly Blaina

Mae teulu merch 14 oed a fu farw ym Mlaenau wedi rhoi teyrnegd iddi gan ei disgrifio fel y “ferch fach fwyaf prydferth, caredig a gofalgar y cawsom y fraint o’i galw’n ferch, chwaer, wyres, nith, cefnder a ffrind”.

Roedd Lilly Jones yn 14 oed ac fe aeth ar goll cyn i'w chorff gael ei ddarganfod yn nhref Blaenau ger Abertyleri fis diwethaf.

Mae bachgen 14 oed wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, ac fe fydd yn ymddangos yn y llys yn ddiweddarach eleni.

Fe wnaeth y diffynnydd, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd fore dydd Llun wedi'i gyhuddo o lofruddio Lilly ar 22 Mehefin.

Mae swyddogion arbenigol yn parhau i gefnogi ei theulu, meddai'r llu.

'Twll annirnadwy'

Mewn teyrnged brynhawn ddydd Iau dywedodd teulu Lilly Jones:“Fel teulu, nid yw’r gair ‘torcalon’ yn dod yn agos at yr hyn rydyn ni’n ei deimlo.

“Hoffem ganolbwyntio mwy ar Lilly a pha mor brydferth yw hi yn hytrach na’r peth erchyll y mae hi wedi gorfod ei ddioddef.

“Lilly yw’r ferch fach fwyaf prydferth, caredig a gofalgar y cawsom y fraint o’i galw’n ferch, chwaer, wyres, nith, cefnder a ffrind.

"Mae hi’n hollol ei hun, mae hi’n hynod ac yn hyderus, yn sassy ac yn ddramatig ac mae hi wrth ei bodd â’i cherddoriaeth.

“Aeth ei chwaeth eclectig mewn cerddoriaeth â ni o My Chemical Romance i Kate Bush ac yn canu pob gair ar dop ei llais yn hollol ddi-ymddiheuriad, ni waeth pwy sy’n gwrando.

“Gallem ysgrifennu llyfr am ba mor anhygoel a derbyniol o bob math o bobl ydyw, gan siarad dros unrhyw un oedd ei hangen.

"Mae ein colled wedi gadael twll annirnadwy nid yn unig yn ein bywydau ond yn y gymuned gyfan.“Hoffem hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r gymuned am eu cefnogaeth a’u rhoddion diddiwedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.