Diwydiant cyhoeddi llyfrau Cymraeg 'ddim yn gynaliadwy' bellach
Diwydiant cyhoeddi llyfrau Cymraeg 'ddim yn gynaliadwy' bellach
Dyw’r diwydiant cyhoeddi llyfrau Cymraeg "ddim yn gynaliadwy" bellach yn ôl un o weisg amlycaf Cymru.
Yn ôl Myrddin ap Dafydd, perchennog Gwasg Carreg Gwalch, mae toriadau i gyllidebau a grantiau yn golygu nad oes “cyflogaeth i gyhoeddwyr bellach” a bod denu pobl ifanc i’r maes bron yn amhosib.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd yn disgrifio’r sefyllfa fel “argyfwng go iawn” gan ddweud fod y byd cyhoeddi “ar groesffordd”.
Yn ôl Llyowdraeth Cymru mae nhw’n “gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru a’r sector i gryfhau gwydnwch ac ehangu cyfleoedd”.
Ers 50 o flynyddoedd mae Myrddin ap Dafydd wedi bod ynghlwm â’r byd cyhoeddi, ond mae’n dweud fod toriadau’r 15 mlynedd diwethaf yn golygu fod y busnes bellach yn gwneud colled ac nad yw’r darlun yn gynaliadwy.
“Llafur cariad ydi o fel cyhoeddwyr”, meddai.
“Mae’n bwysig inni gadw’r wasg i fynd, mae’n bwysig i’r Gymraeg, i Gymru ac ein staff ni.
Ond “da ni’n rhedeg ar golled, ma Llio a finna - ‘da ni’n gweithio fel perchnogion y busnes, da ni’n gweithio’n ddi-gyflog ers blynyddoedd maith”.
'Anodd iawn'
Serch hynny mynnu mae Myrddin ap Dafydd fod ‘na bwysigrwydd enfawr i’r byd cyhoeddi mewn oes o doriadau cymdeithasol.
“Mae ‘na doriadau wedi bod i ysgolion, i lyfrgelloedd ac wedyn mae hynny yn effeithio ar werthiant ond ‘da ni’n dal ati mewn gobaith," meddai.
Dros y ddegawd ddiwethaf mae llai o grantiau ar gael i gyhoeddwyr a’r rhybudd mwyaf gan Wasg Carreg Gwalch yw’r effaith y gallai hyn rwan gael ar bobl ifanc sydd am ddod i’r maes.
“Does dim cyflogaeth ar gyfer cyhoeddwr erbyn hyn”, meddai Myrddin ap Dafydd.
“Pan oni’n dechrau oedd ganddom ni y WDA, Bwrdd Datblygu Cymru Wledig, adrannau busnes yn y llywodraeth leol ond mae rheini gyd wedi mynd bellach.
“Mae’n anodd iawn i urnhyw un ifanc feddwl am gyhoeddi yn y Gymraeg fel bywoliaeth bellach”.
Yn 2022 mi enillodd Sioned Erin Hughes y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ers hynny wedi ysgrifennu a golygu sawl llyfr.
Ond mae’n rhannu’r un pryder â Myrddin ap Dafydd gan ddweud ei bod wedi derbyn bellach na fydd modd iddi wneud gyrfa o’i chrefft.
Mae’n dweud hefyd fod y costau ynghlwm yn gwneud iddi feddwl ddwywaith cyn ysgrifennu a chyhoeddi.
“Mae gwerthiant llyfrau wedi mynd i lawr ac mae gymaint yn fwy o bwysau wedyn ar weisg i gyhoeddi cyfrolau uchelgeisiol sydd yn wych fel cysyniad," meddai.
“Ond grŵp bychan iawn ydi gweisg ac mae ‘na lot o swyddi golygu dwi wedi cymryd ymlaen heb sylweddoli mawredd y gwaith golygu oherwydd bod nhw’n gyfrolau mor uchelgeisiol.
“Ond wedyn bod y ffi ddim yn cyfateb i maint y gwaith a dwi’m yn rhoi y bai yna ar weisg achos da ni gyd yn stryglo”.
'Ergydion'
Mae ffigyrau’n dangos fod y nifer o grantiau sydd ar gael i gyhoeddwyr wedi bod yn gostwng ar gyfartaledd dros y ddegawd ddiwethaf.
Yn ôl Arwel Jones o Gyngor Llyfrau Cymru, mae toriadau a chwyddiant yn golygu fod hi’n “storm berffaith” i gyhoeddwyr.
“Mae gwerth y grant (gan Lywodraeth Cymru) wedi aros yn debyg ond mae costau cynhyrchu wedi cynyddu yn ddifrifol," meddai.
“Mae trydan wedi cynyddu, costau cyflogi wedi codi ond ar ben hynny mae costau papur wedi cynyddu.
"Y drydedd goes i’r stôl mae gwerthiant wedi mynd i lawr felly mae cyhoeddwyr wedi gweld ergydion o dri chyfeiriad."
Ychwanegodd fod gwerth y grant y mae’r cyngor yn ei roi i gyhoeddwyr wedi gostwng oddeutu 30%-40% a bod cyhoeddi felly “ar groesffordd”.
Wrth ymateb i bryderon dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y sector yn un hynod werthfawr i Gymru.
“Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru a’r sector i gryfhau gwydnwch, ehangu cyfleoedd a chefnogi cyfraniad cyhoeddi yng Nghymru at dwf economaidd, swyddi a hunaniaeth ddiwylliannol unigryw Cymru.
“Daw ein cymorth gan wahanol rannau o’r llywodraeth, gan gydnabod cyfraniad y sector cyhoeddi at flaenoriaethau mewn sawl maes, gan gynnwys menter, diwylliant, addysg, iechyd a llesiant, a’r Gymraeg.”