Dedfryd o 24 mlynedd i ddyn am geisio llofruddio ei gyn-bartner mewn parc yng Nghaerfyrddin
Mae dyn 58 oed wedi cael ei ddedfrydu i 24 mlynedd o garchar am geisio llofruddio ei gyn-bartner mewn parc yng Nghaerfyrddin.
Cafwyd James McKenna yn euog o geisio llofruddio'r fenyw mewn parc yng Nghaerfyrddin ar 29 Ionawr.
Fe aeth McKenna â chyllell gegin gydag ef i Barc Caerfyrddin gan aros yn y llwyni am ei gyn-bartner a oedd yn mynd â’i chi am dro.
Wrth iddi agosáu ato, daeth McKenna allan o'r llwyni a'i thrywanu sawl gwaith gan achosi clwyfau i’w brest, ei braich a’i llaw.
Daeth parafeddygon i'r lleoliad i drin y fenyw, ond roedd McKenna eisoes wedi rhedeg i ffwrdd o’r ardal.
Daeth yr heddlu o hyd iddo ar 2 Chwefror yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Abertawe, cyfaddefodd McKenna iddo fynd i’r parc gyda’r gyllell gyda’r bwriad o’i defnyddio i frifo ei gyn-bartner, ond roedd yn gwadu'r cyhuddiad o ymgais i lofruddio.
Ond fe'i cafwyd yn euog gan reithgor o geisio llofruddio.
Dywedodd Lucy Mansfield o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cymryd trais yn erbyn menywod a merched o ddifrif.
"Roedd gweithredoedd McKenna yn oer ac yn fwriadol, gan fynd â chyllell yn fwriadol i fan cyhoeddus i ymosod ar ei gyn-bartner.
"Cyflawnodd drais dychrynllyd, a fyddai wedi bod yn frawychus i’r dioddefwr.
“Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid yn y system cyfiawnder troseddol i fynd i’r afael â’r troseddau ffiaidd hyn.”