Deddf newydd ddim yn rhoi digon o ffocws ar ddigartrefedd pobl ifanc

ITV Cymru
Person digartref

Mae elusen ddigartrefedd yng Nghymru yn honni nad yw deddf newydd gan y llywodraeth yn rhoi digon o ffocws ar ddigartrefedd ymysg pobl ifanc.

Fe gafodd deddf newydd Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol ei chymeradwyo gan y Senedd yr wythnos diwethaf. Mae’r ddeddf yn addo trawsnewid yr ymateb i ddigartrefedd yng Nghymru.

Ond mae elusen End Youth Homlessness Cymru yn dadlau fod dal angen darparu mwy o gymorth i bobl ifanc er mwyn mynd i'r afael â digartrefedd yn effeithiol. 

Dywedodd Beth Gallivan, sy’n gweithio i’r elusen: “Mae’r ddeddf yn rhoi sylw arbennig i bobl ifanc sydd yn gadael y system ofal, ac mae’n wych eu bod nhw yn cael gofal arbennig er mwyn sicrhau eu bod nhw yn cael y gefnogaeth sydd angen arnyn nhw. Ond yn fwy na hynna, does dim byd penodol o amgylch atal digartrefedd mewn pobl ifanc yn anffodus.”

Yn ôl ystadegau'r elusen, mae mwy na 50% o bobl ddigartref, yn profi digartrefedd am y tro cyntaf cyn iddyn nhw droi yn 21 mlwydd oed. 

“Unwaith i chi fod yn ddigartref, mae’n fwy tebygol i chi ddod yn ddigartref eto,” meddai.

“Mae’r patrwm yn aml yn dechrau pan maen nhw yn blant, neu yn berson ifanc. Mae true prevention yn mynd i dargedu pobl ifanc, cyn bod nhw yn mynd ar y llwybr yna.”

Mae’r ddeddf Ddigartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol newydd yn canolbwyntio ar adnabod ac atal achosion gan ei gwneud hi yn haws cael mynediad at gymorth.

Mae’r ddeddf hefyd yn rhoi mwy o gyfrifoldebau ar y sector gyhoeddus i atal ac adnabod  achosion o ddigartrefedd.

Addysg 

Ond mae'r elusen yn galw ar i hynny gael ei ehangu i'r sector addysg hefyd.

“Mae’r gweithwyr addysg yn cael cymaint o gyswllt gyda phobl ifanc, maen nhw mewn sefyllfa unigryw i allu adnabod achosion sydd â risg o brofi digartrefedd yn gynnar,” eglura Beth Gallivan. 

Mae’r ddeddf newydd hefyd yn cael gwared â phrofion blaenoriaethu. Roedd y profion hyn yn arfer penderfynu ar lefel y gefnogaeth ar gyfer unigolyn digartref. 

Yn ôl Beth Gallivan, mae'r ddeddf newydd yn ”cael gwared â’r rhwystrau” ac yn gwneud y broses yn  “fwy hygyrch a chyfartal i bawb sydd angen help.”

Mae rhannu profiadau wedi bod yn rhan ganolog o'r ddeddf.  

Dywedodd pennaeth elusen End Youth Homlessness Cymru bod hwn yn gryfder mawr i’r ddeddf er mwyn sicrhau fod y llywodraeth yn “gwrando ar y rhai sydd wedi profi'r system ddigartrefedd a'r newidiadau y maent yn dymuno eu gweld.” 

'Trobwynt'

Wrth ymateb i'r ddeddf newydd, dywedodd Jane Bryant, ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai bod hwn yn “drobwynt gwirioneddol i Gymru” gan symud o system sydd yn ymateb i argyfwng, a thuag at un sy'n canolbwyntio'n gadarn ar atal digartrefedd. 

“Mae'r Bil mentrus ac uchelgeisiol hwn – yn rhoi'r dulliau i ni greu system decach, atal digartrefedd, cefnogi pobl i gartrefi parhaol, a symud yn agosach at ein huchelgais hirdymor o roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru,” meddai. 

Ond mae Beth Gallivan yn pwysleisio bod gwaith eto i'w gyflawni.

“Mae wastad mwy o waith i wneud. Mae angen mwy o gyllid a fwy o adnoddau. Er mwyn i’r ddeddf fod yn effeithiol, fydd rhaid i’r llywodraeth rhoi fwy o arian i’r sector cyhoeddus, lle mae galw nawr arnyn nhw i wneud fwy o waith er mwyn atal digartrefedd.

“Wrth edrych ymlaen at yr etholiad ym mis Mai, rydyn ni yn gobeithio bydd y llywodraeth newydd yn gallu parhau gyda’r gwaith da a darparu'r cymorth sydd angen er mwyn atal digartrefedd," meddai.  


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.