Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol ‘wedi methu â chyflawni'r newid a addawyd’
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi methu cyflawni'r newid a addawyd, yn ôl gwleidyddion.
Nod y ddeddf gyntaf o’i fath yn y byd a gyflwynwyd yn 2015 oedd sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwneud penderfyniadau hirdymor er lles cymdeithasol dros y degawdau i ddod.
Ond er gwaethaf yr amcanion “radical ac uchelgeisiol” mae wedi “methu â chyflawni ei huchelgeisiau”, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau Senedd Cymru.
Roedd cyrff cyhoeddus yn dal i fethu â blaenoriaethu meddylfryd sy’n canolbwyntio ar y tymor hir yn hytrach na phwysau ariannol yn y tymor byr, meddai Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol Senedd Cymru.
Dywedodd Jenny Rathbone AS, cadeirydd y pwyllgor, bod y ddeddf “yn wirioneddol arloesol” ac wedi “codi disgwyliadau”.
“Dyma'r ymgais gyntaf yn unrhyw le yn y byd i osod datblygu cynaliadwy wrth wraidd gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.
“Ond mae’r broses o weithredu wedi bod yn rhy araf. Mae yna bocedi o arfer da go iawn, ond mae’r cynnydd a wnaed yn parhau’n anghyson.
“Mae cyrff cyhoeddus yn dal i geisio atebion tymor byr, er mai holl ddiben y ddeddfwriaeth oedd torri'r cylch hwnnw.
“Fel blaenoriaeth, mae’n rhaid i gyrff iechyd roi rôl ganolog a blaenllaw i fesurau ataliol yn eu gwaith.
“Rydym yn gofyn i Lywodraeth a Senedd nesaf Cymru ymrwymo i gryfhau’r Ddeddf hon, gan roi dannedd go iawn iddi a sicrhau ei bod yn cyflawni’n wirioneddol er lles pobl Cymru.”
‘Llawer mwy’
Cafodd rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ei chreu yn sgil cyflwyno’r ddeddfwriaeth yn 2015.
Dywedodd y Comisiynydd presennol, Derek Walker (uchod), ei fod yn croesawu cyhoeddi adroddiad y pwyllgor.
“Rwy’n arbennig o falch o weld y Pwyllgor yn adleisio nifer o’r argymhellion a nodais yn fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol y llynedd, gan gynnwys yr angen am adolygiad ffurfiol o’r ddeddfwriaeth ac ymdrech newydd i gynnwys cymunedau ledled Cymru wrth lunio ei dyfodol,” meddai.
“Os yw’r Ddeddf am barhau’n berthnasol ac ymateb i’r heriau sy’n wynebu Cymru, mae’n rhaid iddi barhau i esblygu a chael ei chefnogi gan y grym cyfreithiol sydd ei angen i sicrhau newid gwirioneddol.”
Ychwanegodd: “Mae llawer mwy y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd i wella llesiant hirdymor pobl Cymru a sicrhau bod anghenion cenedlaethau’r dyfodol wrth galon penderfyniadau heddiw.”
Mae’r Comisiynydd hefyd wedi galw ar y Senedd i sefydlu Pwyllgor ar gyfer y Dyfodol ac i bobl Cymru fod yn rhan weithredol o’r gwaith o lunio cam nesaf y ddeddfwriaeth fel rhan o’i hadolygiad.
'Ystyried'
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C: “Rydym yn croesawu adroddiad y Pwyllgor, sy’n cydnabod yr effaith y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi’i chael dros ei degawd cyntaf, gan gynnwys ei dylanwad rhyngwladol, a’r ymateb cadarnhaol a gafodd y canllawiau sy’n ei chefnogi.
"Mae adroddiad y Pwyllgor yn cydnabod y camau pwysig nesaf sydd eu hangen i wella’r broses o gyflawni’r ddeddfwriaeth arloesol hon.
"Mae’r Ddeddf yn parhau i lunio penderfyniadau hirdymor yng Nghymru, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i’w hegwyddorion.
"Byddwn yn ystyried argymhellion y Pwyllgor yn ofalus ac yn ymateb maes o law.”