Dechrau ar waith newydd i arafu erydiad traeth Dinas Dinlle
Bydd gwaith yn dechrau yn fuan i arafu erydiad traeth Dinas Dinlle ar arfordir gogledd-orllewin Gwynedd.
Y bwriad yw lleihau maint grwyn (groyne) – strwythur sy’n helpu i reoli erydiad arfordirol trwy arafu symudiad tywod, cerrig mân a graean ar y traeth.
Cafodd y grwyn ei adeiladu yn 1994, ond mae pryderon bellach bod ei faint yn cyfrannu at yr erydiad a welwyd tua’r gogledd o’r traeth.
Gobaith Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy’n cwblhau’r gwaith, yw y bydd lleihau maint y grwyn yn arafu cyfradd yr erydiad sy’n effeithio ar y traeth i’r gogledd ohono.
Os yw gwaith monitro’n dangos bod lleihau maint y grwyn yn cael effaith negyddol ar symudiad graean neu amodau traethau lleol, bydd CNC yn ei adfer i’r lefel bresennol, medden nhw.
Dywedodd Keith Ivens, Rheolwr Gweithrediadau Rheoli Llifogydd a Dŵr CNC, bod y graean ar y traeth yn “chwarae rhan allweddol wrth amddiffyn y glannau rhag erydiad”.
“Rydym yn deall y gallai fod gan drigolion lleol gwestiynau, a hoffem sicrhau’r gymuned mai gwaith byrdymor yw hwn, sydd wedi’i gynllunio’n ofalus, a bydd yn cael ei fonitro’n agos i sicrhau’r canlyniad amgylcheddol gorau,” meddai.
Dylai’r gwaith gael ei gynnal ym mis Mawrth 2026, medden nhw.
Bydd un cloddiwr a lori dympio’n gwneud y gwaith, a bydd yn cymryd tua phedwar diwrnod i’w gwblhau.
Unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau, bydd CNC yn monitro’n agos sut mae’r traeth yn ymateb, medden nhw.
Mae’r clogwyni uwchben traeth Dinas Dinlle yn gartref i olion caer o’r Oes Haearn, yn ogystal â thŷ crwn o gyfnod y Rhufeiniaid.
Mae pryderon y gallai’r olion ddiflannu i’r môr o fewn 50 mlynedd.