Dau wedi eu lladd wedi ymosodiad 'enfawr' gan ddronau Wcráin ar Moscow
Mae o leiaf dau berson wedi cael eu lladd a chwech wedi’u hanafu mewn ymosodiad “enfawr” gan ddronau Wcráin ar ranbarth Moscow dros nos, yn ôl y Llywodraethwr Andrei Vorobyev.
Dywedodd Vorobyev fod 249 o ddronau wedi cael eu saethu i lawr, a bod tanau mewn sawl tŷ. Roedd warws lleol hefyd ar dân. Yn y brifddinas Moscow, cafodd purfa olew ei difrodi, ac roedd cyfyngiadau ar hediadau mewn dau faes awyr.
Yn y cyfamser, dywedodd un o swyddogion Wcráin fod wyth o bobl, gan gynnwys tri phlentyn, wedi cael eu lladd mewn ymosodiadau gan Rwsia yn rhanbarthau Kyiv a Sumy ddydd Sadwrn.
Mewn neges ar Telegram ddydd Sul, dywedodd Vorobyev fod dynes 44 oed wedi cael ei lladd yn Sofyino ar ôl i ddrôn daro adeilad preswyl tri llawr. Cafodd pump o bobl eraill, gan gynnwys dau blentyn, eu hanafu, meddai.
Yn ardal Orekhovo-Zuevo, bu farw dyn oedrannus ar ôl i dŷ preifat gael ei daro, yn ôl llywodraethwr y rhanbarth.
Mae fideos wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n honni dangos ffrwydradau yn awyr y nos yn rhanbarth Moscow, a warws ar dân.
Yn y cyfamser, dywedodd Maer Moscow, Sergei Sobyanin, fod drôn wedi taro adeilad ger un o rodfeydd y brifddinas a bod cyfleuster mewn purfa olew wedi cael ei ddifrodi.
Dywedodd ar y cyfryngau cymdeithasol fod 450 o ddronau oedd yn anelu am Moscow wedi cael eu saethu i lawr.
Yn Wcráin, cafodd mam a’i dau blentyn bach, bachgen a merch, eu lladd mewn ymosodiad gan Rwsia yn ninas Fastiv ddydd Sadwrn, meddai pennaeth rhanbarth Kyiv, Tymur Tkachenko. Cafodd sawl cartref preifat eu difrodi hefyd.
Dywedodd yn ddiweddarach fod plentyn a gafodd ei anafu mewn ymosodiad ar wahân yn Vyshhorod, i’r gogledd o Kyiv, wedi marw yn yr ysbyty.
Yn rhanbarth Sumy yn y gogledd-ddwyrain, cafodd pedwar o bobl eu lladd pan darodd drôn o Rwsia y car roedden nhw’n teithio ynddo, meddai’r uwch swyddog lleol Oleh Hryhorov.
Fe wnaeth Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, lansio ymosodiad milwrol llawn ar Wcráin ym mis Chwefror 2022.