Dau wedi eu harestio ar ôl i bedwar person ifanc gael eu trywanu yn Ninbych y Pysgod
Mae dau berson wedi cael eu harestio ar ôl i bedwar o bobl ifanc gael eu trywanu yn ystod anrhefn rhwng grŵp o bobl ifanc yn Ninbych y Pysgod.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud bod person 16 oed a dyn 19 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod gyda bwriad ac maent yn y ddalfa.
Mewn datganiad fe ddywedodd y llu bod swyddogion wedi cael eu galw wedi adroddiadau o "anrhefn ddifrifol" i orsaf drenau Dinbych y Pysgod tua 9.50 nos Fawrth.
Dyw anafiadau'r pedwar person ifanc ddim yn rhai all beryglu bywyd.
"Rydyn ni yn deall y gall digwyddiad o'r natur yma achosi pryder ac fe fydd yna fwy o bresenoldeb yr heddlu yn yr ardal er mwyn tawelu meddwl," meddai'r datganiad gan yr heddlu.
Maent yn dweud y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain sydd yn arwain yr ymchwiliad.
Llun: Google maps