Apêl i ail-gartrefu 180 o ieir sy'n wynebu cael eu difa
Mae elusen yn galw ar bobl yn Sir Benfro i fabwysiadu 180 o ieir sydd fel arall yn wynebu’r posibilrwydd o gael eu difa.
Mae’r British Hen Welfare Trust wedi lansio apêl i geisio ail-gartrefu 180 o ieir oedd yn arfer bod yn rhai masnachol.
Os na fyddent yn canfod cartref newydd, fe allen nhw gael eu difa, yn ôl yr elusen.
Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal ym Moncath ar ddydd Sadwrn 11 Ebrill gyda'r nod o ddenu pobl i roi cartref i'r adar.
Mae'r ieir yma yn 18 mis oed ac wedi treulio eu bywydau yn dodwy wyau i’w prynu mewn archfarchnadoedd.
Ar ôl cyrraedd 18 mis oed, maent yn cyrraedd diwedd eu hoes fasnachol. Yn ôl yr elusen, yr hyn sydd angen arnynt wedi hynny yw “diogelwch, bwyd, dŵr a rhywfaint o ofal a chariad”.
Dywedodd Andy Hill o’r British Hen Welfare Trust: “Mae pobl yn aml yn synnu faint o lawenydd mae ieir yn eu rhoi i bobl.
“Maen nhw'n gymeriadau bach doniol a chwilfrydig, maen nhw wrth eu bodd â threfn, ac mae wir yn bleser gofalu amdanyn nhw. Hefyd, maen nhw'n fwy na pharod i roi wy allan o bryd i'w gilydd.
“Gyda'r gwanwyn yma o’r diwedd, dyma'r amser delfrydol i ddechrau gofalu amdanyn nhw."
Llun: Sophia Roma