Menyw 19 oed o Brydain wedi marw tra'n ymweld â Fietnam

Ffordd enwog trwy'r mynyddoedd yn ardal Ha Giang

Mae menyw ifanc o Brydain wedi marw tra yn ymweld â Fietnam.

Yn ôl cyfryngau lleol y wlad fe fuodd Orla Wates, oedd yn 19 oed, farw ar ôl disgyn o gefn beic modur wrth deithio yn Ha Giang Loop, sydd yng ngogledd y wlad.

Mae Viet Nam News yn dweud iddi gael ei chludo i'r ysbyty yn Hanoi a'i bod wedi marw Ebrill 2 gyda'i rhieni wrth ei hochr.

Mae mam Orla wedi dweud wrth y gwasanaeth newyddion bod ei theulu wedi penderfynu rhoi ei horganau i'r ysbyty i helpu eraill.

Mae Swyddfa Dramor Prydain wedi dweud wrth y BBC eu bod mewn cyswllt gyda'r awdurdodau lleol ac yn cynnig cefnogaeth i deulu Orla.

Wrth roi teyrnged iddi dywedodd ei mam, Henrietta Wates wrth Viet Nam News bod ei merch yn "brydferth, yn annibynnol ac yn ddoniol iawn, gyda meddwl chwim. Roedd hi wrth ei bodd edrych yn dda a byw bywyd llawn".

Dywedodd bod y teulu wedi penderfynu rhoi ei horganau am eu bod yn credu mai dyma "fyddai Orla eisiau. Mae gwybod ei bod hi yn byw drwyddyn nhw yn rhoi cysur mawr i ni."

Yn ôl y gwasanaeth newyddion roedd Orla wedi bod yn teithio o gwmpas De Ddwyrain Asia a'r bwriad oedd ei bod yn dechrau gradd ym Mhrifysgol Durham.

Mae Viet Nam News yn dweud bod organau Orla wedi eu rhoi i bump claf sydd yn "ddifrifol wael" yn yr ysbyty. 

Llun: ZUMA Press Wire via Reuters 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.