Dau o uwch swyddogion Reform yn camu i lawr wedi ymchwiliad i gyllid y blaid

Farage CH4

Bydd Nigel Farage yn annerch cynhadledd Reform UK ddydd Gwener wrth iddo wynebu rhagor o gwestiynau am gyllid ei blaid.

Fore dydd Gwener, cyhoeddodd Reform fod James Orr a Dan Jukes wedi camu i lawr o'u swyddi gyda Reform wrth aros am ganlyniad ymchwiliad y blaid i honiadau newydd ar raglen Channel 4 News nos Iau.

Mae'r ddau yn ymgynghorwyr i Nigel Farage, gydag Orr yn bennaeth polisi Reform UK.

Mae pleidiau eraill wedi cysylltu gyda'r heddlu yn dilyn honiadau yn yr ymchwiliad gan Channel 4 News bod Reform wedi derbyn cyllid gan gwmni o'r Unol Daleithiau ar gyfer cynnal tri arolwg barn a gomisiynwyd gan Reform yn gynharach eleni, a gostiodd £32,500.

Nid yw cwmnïau tramor yn cael bod yn ffynhonnell gyfreithlon o gyllid i bleidiau - gan gynnwys taliadau am astudiaethau ac ymchwil - ac fe allai derbyn rhoddion ganddynt fod yn drosedd.

Dywedodd cadeirydd Reform UK, Lee Anderson, wrth Sky News nad oedd “unrhyw obaith” i'r ddau sydd wedi camu i lawr o gael dychwelyd i’r blaid.

Proses wirio

Mae Reform wedi gwadu unrhyw gamymddwyn ac wedi mynnu bod ganddynt "broses wirio gadarn" mewn lle ar gyfer derbyn rhoddion.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid: “Mae Reform UK wedi lansio ymchwiliad yn dilyn darlledu rhaglen Channel 4 News.

“Mae’r ddau unigolyn dan sylw wedi camu i lawr o’u swyddi priodol wrth aros am ganlyniad yr ymchwiliad. “

Mae’r blaid yn credu ei bod hi’n bwysig bod yr ymchwiliad yn cael bwrw ymlaen yn annibynnol ac heb ragfarn. Ni wneir unrhyw sylw pellach tra bo’r ymchwiliad yn mynd rhagddo.”

Gohebwyr cudd o'r grŵp ymchwiliol Verbatim oedd y rhai oedd yn rhoi'r arian; gan esgus bod yn gefnogwr ariannol Americanaidd oedd gyda mab oedd yn byw yn y DU.

Mae Cadeirydd y Blaid Lafur, Bridget Phillipson, wedi galw ar Mr Farage a'i dîm i "brofi ar frys" nad oeddent wedi "torri'r gyfraith a chynllwynio'n gyfrinachol i danseilio ein democratiaeth".

Mewn llythyr at Heddlu'r Met yn Llundain, dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar faterion Swyddfa'r Cabinet, Lisa Smart, fod y honiadau'n codi "cwestiynau brawychus ynghylch a fu diffyg pryder digonol - neu hyd yn oed anwybyddu - ymyrraeth dramor gan yr unigolion dan sylw".

Llun: Channel 4 News

 
 
 
 
 
 
 


 

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.