Dau frawd yn cario sach o datws o Wrecsam i Wynedd i godi arian
Bydd dau frawd o Wrecsam yn cerdded bron i 60 milltir o Wrecsam i Wynedd tra'n cario sach 25kg o datws i godi arian i elusen wedi i'w tad wella o ganser y prostad.
Fe fydd Harvey Jones, 27 oed, a'i frawd Jack, 33 oed, yn cerdded 57 milltir o'u busnes teuluol yn gwerthu tatws yn Wrecsam i siop sglodion yn Abermaw ddydd Sadwrn 30 Mai.
Fe gafodd tad y ddau frawd, Peter Gwyn Jones, ddiagnosis o ganser y prostad pan wnaeth llawfeddygon sylwi nad oedd rhywbeth yn iawn tra'n paratoi ar gyfer llawdriniaeth hernia.
Mae Peter bellach yn gwella.
Canser y prostad yw'r math o ganser mwyaf cyffredin yn y DU, gyda mwy na 64,000 o ddynion yn cael diagnosis bob blwyddyn.
Dywedodd Harvey Jones fod ef a'i frawd eisiau gwneud eu rhan nhw dros dadau eraill sydd yn byw gyda chanser y prostad.
"Pan gafodd dad ddiagnosis y llynedd... roedd yn gyfnod ofnadwy i ni," meddai.
“Roedd rhestr aros hyd at dair blynedd ar y GIG, felly aeth dad i gael triniaeth breifat gan ei fod mewn cymaint o boen.
“Dywedodd y meddyg y byddai wedi marw o fewn tair blynedd pe na bai wedi cael ei ganfod. Dyna pam ei bod mor bwysig i ddynion gael profion.
"Dwi'n falch bod Prostate Cancer UK yn gweithio i helpu teuluoedd eraill fel ni sydd yn mynd drwy hyn."
Hyd yma mae'r ddau frawd wedi codi dros £11,000.
Ychwanegodd Harvey: "Er mwyn codi arian i'r elusen, roeddem eisiau gwneud rhywbeth eithaf unigryw, ac o ystyried ein cefndir gyda thatws, roedd yr her hon wedi dod i'r amlwg.
"Rydym yn cario'r bagiau rhyw gannoedd o lathenni ar y mwyaf o'r lori yn y gwaith, felly bydd hyn yn brofiad newydd iawn.
"Dwi ddim yn siŵr iawn sut mae paratoi ar gyfer hyn, felly byddwn yn cymryd tipyn o risg.
"Ond mae'r risg yn werth ei chymryd, dwi'n falch ein bod ni'n gwneud ein rhan dros y tadau eraill sydd yn byw gyda chanser y prostad."
Mae'r ddau frawd wedi derbyn cefnogaeth gan Glwb Pêl-droed Wrecsam, ac wedi cymryd rhan mewn sesiwn ymarfer ar y Stōk Cae Ras gyda rheolwr y tîm, Phil Parkinson.
Dywedodd Parkinson fod Harvey a Jack Jones yn gwneud rhywbeth "arbennig" i'w tad.
"Dwi wedi dod i adnabod y teulu'n dda iawn yn ystod fy nghyfnod yma a dwi'n gwybod eu bod nhw'n gefnogwyr Wrecsam brwd," meddai.
"Rydym yn falch iawn bod Peter yn gwella, ac mae hyn yn achos gwych gyda'r bechgyn yn gwneud rhywbeth arbennig i'w tad.
"Bydd pawb y tu ôl iddynt, a dwi'n gwybod y bydd pobl gogledd Cymru yn dangos eu cefnogaeth."
Mewn fideo o sesiwn hyfforddi, mae Parkinson yn helpu'r brodyr i baratoi ar gyfer y daith drwy gynnal ymarferion tebyg i sesiwn hyfforddi pêl-droed.
Mae'r ddau yn rhedeg mewn ac allan o gonau tra'n dal y sach o datws.
"Roedd yn dda cynnal sesiwn hyfforddi yn y Stōk Cae Ras, ond rhaid i mi ddweud dyw e ddim yn beth hawdd cario'r sach enfawr o datws dros 50 milltir," meddai Parkinson.