Dau yn euog wedi difrod i eiddo yn gysylltiedig â Keir Starmer

starmer

Yn Llys yr Old Bailey, mae dau ddyn wedi eu dyfarnu'n euog o gynllwynio i achosi difrod i eiddo yn gysylltiedig â'r Prif Weinidog, Syr Keir Starmer.   

Mae Roman Lavrynovych yn 22 oed ac yn dod o Wcráin, a Stanislav Carpiuc, 27 oed, yn dod o Rwmania.  

Fis Mai y llynedd, cafodd car Toyota Rav4 a oedd yn arfer bod yn berchen i Syr Keir Starmer ei roi ar dân mewn stryd yn Kentish Town, gogledd Llundain.

Ddyddiau yn ddiweddarach, cafodd dau dŷ eu rhoi ar dân, yn eu plith cartref yng ngogledd Llundain sy'n berchen i'r Prif Weinidog, lle roedd ei chwaer yng nghyfraith a'i theulu yn byw.

Clywodd y llys fod yr ymosodiadau ganol nos, tra roedd pobl yn cysgu, yn ymdrech i beryglu bywyd ac roedd y trigolion hynny wedi eu brawychu.

Wedi iddyn nhw ystyried eu dyfarniad am fwy na saith awr, daeth y rheithgor i'r casgliad fod Lavrynovych a Carpiuc yn euog o gynllwynio i achosi difrod i eiddo.

Roedd diffynydd arall Petro Pochynok, 35 oed yn ddieuog.  

Cafodd Lavrynovych ei ddyfarnu'n euog hefyd o ddifrodi dau gartref drwy gynnau tân ar 11 ac 12 Mai y llynedd.  

Cafodd Lavrynovych a Carpiuc eu cadw yn y ddalfa gan y barnwr Mr Ustus Garnham, a bydd y ddau yn cael eu dedfrydu ddydd Gwener.   

Arestiodd yr heddlu y ddau o fewn wythnosau i'r ymosodiadau. 

Clywodd y llys mai cyswllt o'r enw El Money oedd wedi gorchymyn yr ymosodiadau. 

Roedd y siaradwr Rwsieg amhysbys wedi cynnig £3,000 i Lavrynovych os byddai'r tanau yn "cael eu ffilmio ac yn cyrraedd y newyddion".

Clywodd y gwrandawiad fod Lavrynovych wedi cael y cais cyntaf gan El Money i gynnau tân i'r cerbyd Toyota Rav4 ar 8 Mai y llynedd. 

Roedd e wedi ceisio annog Mr Pochynok i ffilmio hynny, ar ôl gofyn i'w ffrind Carpiuc yn gyntaf, clywodd y rheithgor. 

Dridiau yn ddiweddarach, daeth adroddiad fod tŷ ar dân ar Stryd Ellington yn Islington, Llundain, a oedd yn cael ei reoli gan gwmni yr oedd Syr Keir Starmer yn arfer bod yn gadeirydd arno, ac yn gyfranddalwr.

Yn ystod oriau mân 12 Mai, gafodd cyn-gartref Prif Weinidog y DU ei dargedu yn Kentish Town.

Roedd ei chwaer yn nghyfraith Judith Alexander yn byw yno gyda'i phartner a'i merch.

Mewn datganiad, dywedodd Ms Alexander: "Yn sydyn clywais swn 'bang' ddwywaith. Roedd yn uchel iawn, fel pe bai biniau wedi eu taflu tuag at y drws. 

"Welai i neb ar y stryd, ond pan edrychais i lawr, mi welais fwg a lliw oren lle roedd y drws."

Wrth i'r mwg ymledu i fyny'r grisiau, dywedodd Ms Alexander iddi geisio ffonio ei chwaer Victoria, gwraig y Prif Weinidog. 

Disgrifiodd ei hofn yn sgil yr hyn allai fod wedi digwydd, pe nai bai hi wedi deffro. 

Wedi'r ymosodiadau, cafodd Lavrynovych ei annog gan El Money i ffoi gan nodi: "Rwyt ti wedi ymosod ar gartref person adnabyddus ym Mhrydain. Fe anfonaf yr arian, rwyt ti angen gadael y ddinas. 

"Os wyt yn cael dy ddal gan yr heddlu, ysgrifenna'r gair  ‘geranium’ yn gyfrinachol ac mi anfonaf gyfreithiwr atat. Fe gei di arian gen i am wythnos a ffôn newydd. Ni fyddwn mewn cysylltiad am wythnos."

Cafodd Lavrynovych o Sydenham, de Llundain ei gyhuddo ar 15 Mai y llynedd.

Ddyddiau yn ddiweddarach, cafodd Carpiuc ei atal ym maes awyr Luton Airport wrth iddo geisio mynd ar awyren i Rwmania. 

Yn yr achos, cyfaddefodd Lavrynovych iddo roi'r eiddo ar dân, ond honnodd iddo gael ei fygwth gan El Money.

Mae'n ddirgelwch pwy yw El Money, ond yn ôl Lavrynovych roedd yn credu fod ganddo gysylltiadau gwleidyddol. 

Dywedodd Carpiuc, o Romford, dwyrain Llundain iddo wrthod cymryd rhan yn y cynllwyn gan ddweud ei fod yn wallgof ac anghyfreithlon.  

Dywedodd Mr Pochynok, a oedd yn arfer rhannu tŷ ag e, nad oedd yn ymwybodol o'r cynllwyn i roi'r car ar dân hyd nes ei bod yn rhy hwyr.  

Wrth groesawu'r dyfarniad yn Llys yr Old Bailey, dywedodd Frank Ferguson o Wasanaeth Erlyn y Goron fod rhain yn ymdrechion "pwrpasol a pheryglus, a oedd yn rhoi bywydau mewn perygl".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.