Dau ddyn ifanc o Faldwyn i gneifio am 24 awr ar ôl colli aelodau o’u teuluoedd i ganser
Dau ddyn ifanc o Faldwyn i gneifio am 24 awr ar ôl colli aelodau o’u teuluoedd i ganser
Bydd dau ddyn ifanc o Faldwyn yn cychwyn ar her cneifio 24 awr er mwyn codi arian ar ôl i aelodau o'u teuluoedd farw o ganser.
Ddydd Gwener bydd Iwan Hughes, 22 oed, ac Ollie Morgan, 24 oed, o Benybont Fawr, yn cychwyn ar eu her i gneifio am 24 awr yn olynol.
Penderfynodd y ddau godi arian i elusen Macmillan Cancer Support ac i Sefydliad DPJ, elusen a gafodd ei sefydlu ar ôl i ffermwr ifanc o Sir Benfro farw drwy hunanladdiad.
Bu farw ewythr Ollie, Carl, o ganser, a bu farw taid Iwan, Hywel, o'r afiechyd hefyd.
"Llynedd ddaru fi colli fy ewythr, Carl i canser, a wedyn o’n i’n meddwl jyst trio neud rhywbeth i roi nôl i Macmillan ddaru helpu auntie fi allan," meddai Ollie wrth Newyddion S4C.
Ychwanegodd Iwan: " 'Den ni’n dau ‘di colli rhywun agos iawn i ni efo canser. So ni jyst ‘di penderfynu cneifio am 24 awr i hel cymaint o bres â posib rili."
'Anodd yn feddyliol'
Mae gan y ddau gryn brofiad ym myd cneifio. Fe wnaeth Ollie dreulio cyfnod yn Seland Newydd yn cneifio ac yn ffermio.
Mae'r ddau hefyd wedi bod yn llwyddiannus mewn nifer o gystadlaethau cneifio lleol.
Bydd yr her yn un anodd ar adegau, yn enwedig yn ystod oriau mân y bore, medden nhw.
"Mi fydd o'n anodd yn gorfforol, ond bydd o'n bendant yn anodd yn meddyliol hefyd," meddai Ollie.
"I cneifio am gymaint o amser, bydd o’n rhoi lot o straen ar y meddwl, dwi’n meddwl."
Ychwanegodd Iwan mai'r cynod lle nad oes llawer o bobl o gwmpas fydd yr anoddaf.
"Bydd ni’n cneifio trwy’r nos a bydd ‘na ddim llawer o bobl o gwmpas," meddai.
"Ond jyst gobeithio bydd pawb o’n cwmpas jyst yn syportio ni a, gobeithio bydd pob peth yn iawn."

