‘Gwersi i’w dysgu’ o danau gwyllt medd un o weinidogion Llywodraeth Cymru

ITV Cymru
Dafydd Trystan Davies

Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod “gwersi i’w dysgu” o ran ymateb Cymru i danau gwyllt ar ôl i sawl tân mawr ym mhob cwr o’r wlad roi'r gwasanaethau brys "dan bwysau".

Roedd Dafydd Trystan Davies, Gweinidog y Cabinet dros Effeithiolrwydd y Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, yn siarad yn ystod ymweliad â safle’r tanau gwyllt ger Treorci ddydd Mercher.

Pan gafodd ei holi am gyflymder ymateb Llywodraeth Cymru i’r tanau, cytunodd Mr Davies fod gwersi i’w dysgu.

 “Mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n dysgu’r holl wersi o’r haf hwn,” meddai. “Ein gobaith yw ein bod ni’n llywodraeth sy’n dysgu o brofiadau.

“Mae clywed am waith y gwasanaeth tân, y fyddin, gwasanaethau tân ledled y DU a’r gymuned yn gwneud i rywun deimlo’n ddiolchgar iawn.”

Ychwanegodd: “Mae arnom ddyled enfawr o ddiolchgarwch i’r gwasanaeth tân oherwydd mae’r gwaith y mae wedi’i wneud wedi bod yn wych. Mae adnoddau wedi bod dan bwysau.”

Wrth gyfarfod â’r gweinidog, siaradodd Fin Monahan, Prif Swyddog Gwasanaeth Tân De Cymru, am natur ddigynsail y tanau yr haf hwn.

Pan gafodd ei holi am y gwersi y gellid eu dysgu o’r tanau diweddar, dywedodd: “Mae hefyd yn fater o gapasiti... yn bendant, mae gennym sefyllfa lle mae llai o ddiffoddwyr tân gennym, ac mae angen i ni edrych o ddifrif ar ein capasiti.

“Byddwn ni’n cynnal sesiwn strwythuredig ar ôl y tanau... a bydd honno’n nodi’r gwersi gwirioneddol y gallwn ni eu dysgu o hyn.”

Uwchgynhadledd

Yn ne Cymru, cyhoeddodd y gwasanaeth tân ddigwyddiad mawr oherwydd maint y mwg a nifer y digwyddiadau yr oedd yn ymdrin â nhw.

Cafodd mwy na 200 o aelodau’r fyddin eu hanfon i helpu i ddod â’r fflamau dan reolaeth.

Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru brynhawn Mercher fod y cymorth milwrol yn cael ei dynnu’n ôl.

Mae sawl tân hefyd wedi bod ar draws gogledd, canolbarth a gorllewin Cymru yr haf hwn, gan gynnwys ger Llanymddyfri ac ym Mynyddoedd y Rhinogydd.

Mewn datganiad ar ôl cyfarfod COBR brys ar Awst 12, dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, y byddai yn cynnal uwchgynhadledd tanau gwyllt.

Wrth siarad ddydd Mercher, dywedodd Dafydd Trystan Davies AS y bydd yr uwchgynhadledd yn cael ei chynnal cyn gynted ag y bo’n rhesymol gwneud hynny, o bosibl yn yr hydref.

Dywedodd: “Mae’n mynd i fod yn hollbwysig ein bod ni’n dysgu gwersi am sut i feithrin gwasanaethau cydnerth mewn oes o newid hinsawdd.”

Mewn datganiad ddydd Mercher, cadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod sawl tân gwyllt yn parhau ym Mlaenafon, Treherbert, Dowlais ac yng Nghronfa Ddŵr Llwyn-on.

Mae’r gwasanaeth yn annog pobl i helpu i atal rhagor o danau gwyllt drwy ddilyn cyngor a chanllawiau swyddogol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.