Dau Brydeiniwr wedi’u lladd mewn avalanche yn Ffrainc
Mae dau ddyn o Brydain ymhlith tri o bobl a laddwyd mewn avalanche yn Alpau Ffrainc.
Digwyddodd yr avalanche am tua 11:30 amser lleol ddydd Gwener yn ardal sgïo Val d’Isère yn yr Alpau yn ne-ddwyrain Ffrainc.
Dywedodd llefarydd o adran rheoli llethrau’r yn lleol taw dyn o Ffrainc oedd y trydydd person a laddwyd ac roedd yn sgïo ar ei ben ei hun.
Yn ôl adroddiadau, roedd y Prydeinwyr yn rhan o grŵp o bump o bobl yng nghwmni hyfforddwr a oedd yn sgïo oddi ar y llethrau.
Ddydd Iau, cyhoeddwyd rhybudd avalanche coch ar draws rhanbarth Savoie gan Meteo-France, sef y gwasanaeth tywydd cenedlaethol.
Dywedodd gwefan cyrchfan sgïo Val d’Isère eu bod nhw’n cymeradwyo’n “gryf” ni ddylid sgïo oddi ar y llethrau oherwydd “risg eirlithriad uchel iawn”.
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Dramor Prydain: “Rydym yn ymwybodol o ddamwain lle bu farw dau ddyn o Brydain yn Ffrainc.
“Rydym mewn cysylltiad â’r awdurdodau lleol ac yn barod i gynnig cymorth consylaidd”.
Llun: Val d'Isere