Dau o Brydain ymhlith tri sydd wedi marw mewn damwain awyren yn Alpau’r Swistir

Leukerbad

Mae dau Brydeiniwr ymhlith tri o bobl sydd wedi marw ar ôl i awyren ysgafn daro ochr mynydd yn Alpau’r Swistir.

Yn ôl yr heddlu lleol, fe wnaeth awyren Cirrus SR22T daro llethr ogleddol mynydd yng nghyrchfan gwyliau Loeche-les-Bains, neu Leukerbad yn Almaeneg.

Fe digwyddodd y ddamwain yn nhalaith Valais yn ne’r Swistir, ychydig ar ôl 16.00 ddydd Mawrth.

Dywedodd tystion eu bod wedi gweld “llawer” o fwg ar ôl y ddamwain.

Fe aeth gwasanaethau brys o sefydliad achub talaith Valais i’r safle gyda thri hofrennydd a dau arbenigwr achub. Fe ddaethon nhw o hyd i’r tri oedd wedi marw.

Cafodd yr heddlu, diffoddwyr tân o Loeche-les-Bains a maes awyr Sion, a Bwrdd Ymchwilio i Ddiogelwch Trafnidiaeth y Swistir (STSB) eu hanfon i’r safle hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Rydyn ni’n rhoi cymorth i deuluoedd dau ddinesydd Prydeinig sydd wedi marw yn y Swistir ac mewn cysylltiad â’r awdurdodau lleol.

“Mae ein meddyliau’n parhau i fod gyda’r teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Roedd yr awyren un injan wedi dechrau ei thaith yn Lugano, yn ne’r Swistir, cyn aros yn Sion, prifddinas talaith Valais.

Yna, roedd wedi esgyn eto i deithio i Buochs yn nhalaith Nidwalden yng nghanol y Swistir.

Mae’r STSB wedi dechrau ymchwiliad i achosion y ddamwain.

Mae Swyddfa Twrnai Cyffredinol y Swistir a heddlu lleol Valais hefyd wedi dechrau ymchwiliad troseddol.

Yn ôl gwefan y gyrchfan, Loeche-les-Bains yw’r gyrchfan sba thermol fwyaf yn yr Alpau.

Mae hefyd yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer cerdded, sgïo, dringo a beicio mynydd.

Mae’r gyrchfan tua 39 milltir (62km) o Bern a 93 milltir (150km) o Lausanne.

Llun: Loeche-les-Bains, neu Leukerbad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.