Dartiau: Torcalon i Gymru yng Nghwpan y Byd ar ôl colli i Loegr
Roedd hi'n dorcalon i Gymru yng Nghwpan Dartiau'r Byd ddydd Sul ar ôl i Jonny Clayton a Nick Kenny golli 8-7 yn erbyn Lloegr.
Fe aeth Cymru 4-0 ar y blaen yn gynnar yn rownd yr wyth olaf yn Frankfurt, yr Almaen.
Er i Luke Littler a Luke Humphries ennill dau gymal ar ôl hynny, Cymru oedd ar y blaen 5-2 ar yr egwyl.
Y Saeson ddechreuodd orau ar ôl yr egwyl wrth iddyn nhw ennill tri chymal yn olynol i unioni'r sgôr.
Roedd hi'n 6-6 pan gipiodd Littler 170, y rhif uchaf mae modd gorffen cymal arno yn y gamp.
Enillodd Cymru gymal rhif 14, gan olygu mai enillydd y cymal olaf fyddai'n cyrraedd y rownd gyn-derfynol.
Methodd Nick Kenny â chipio 84, cyn i Littler daro'r dwbl pump i sicrhau lle Lloegr yn y pedwar olaf.
Eleni oedd y tro cyntaf i Jonny Clayton a Nick Kenny chwarae ar y cyd, a ddaeth o ganlyniad i Gerwyn Price yn tynnu allan o'r gystadleuaeth.
Bydd Lloegr yn wynebu'r Alban yn y rownd gyn-derfynol, tra bod yr Iseldiroedd a Gogledd Iwerddon yn wynebu ei gilydd am le yn y rownd derfynol.
Fe fydd £100,000 yn cael ei roi i'r enillwyr. Mae Jonny Clayton a Nick Kenny yn cael £10,000 yr un am gyrraedd rownd yr wyth olaf.

