Darganfod un o 'ddarnau arian mwyaf prydferth' yn hanes mewn cartref yng Ngwynedd
Mae un o "ddarnau arian mwyaf prydferth" yn hanes y DU wedi ei ddarganfod wrth glirio tŷ yng Ngwynedd.
Fe fydd y darn aur yn mynd o dan y morthwyl gyda'r arwerthwyr yn gobeithio bydd yr eitem yn gwerthu am amcangyfrif o £70,000-120,000.
Mae cwmni arwerthiant Rogers Jones yn disgrifio'r darn arian Fictoraidd fel un "hynod brin" a bod eu staff wedi "darganfod y darn wrth gynnal gwerthusiad mewn eiddo yng Ngwynedd.
Mae'r cwmni'n gobeithio bydd y darn, a gafodd ei fathu fel rhan o ddathliadau esgyniad y Frenhines Victoria i orsedd Lloegr yn 1837, yn cyrraedd pris o leiaf £70,000 mewn arwerthiant yng Nghaer yn ddydd Iau.
Mae'r darn arian penodol yma yn cael ei ystyried yn eang fel darn 'Una a’r Llew' a'i fod yn un o enghreifftiau Prydeinig mwyaf prydferth a fathwyd erioed, a'i fod yn un o’r rhai mwyaf gwerthfawr yn y byd oherwydd ei fod yn brin iawn.
Y gred yw mai dim ond rhwng 200 a 300 o'r darnau yma cafodd eu bathu erioed.
(LLUNIAU: ROGERS JONES A'I GWMI)