Castell Newydd Emlyn: Dyn o flaen llys am achosi anaf difrifol drwy yrru'n ddiofal

Maudlands

Mae dyn wedi ei gyhuddo o achosi anaf difrifol drwy yrru'n ddiofal yn dilyn gwrthdrawiad rhwng fan a beic modur yn ardal Castell Newydd Emlyn ddydd Mercher.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr B4333, Capel Iwan, am ychydig wedi 07:00.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng fan wen Mercedes Sprinter oedd yn tynnu trelar, a beic modur Triumph du.

Fe fydd gyrrwr y fan, José Fernando Rey Fernández, 45 oed, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Aberystwyth fore dydd Iau.

Cafodd gyrrwr y beic modur ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty, lle mae'n cael ei drin am anafiadau difrifol.

Mae'r tîm ymchwilio yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y cerbydau cyn y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101 neu 0800 555111

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.