Starmer yn cyrraedd yr Emiradau Arabaidd Unedig wrth i'r cadoediad rhwng America ac Iran ddod o dan straen

Keir Starmer yn cyrraedd yr UAE

Mae Syr Keir Starmer wedi cyrraedd yr Emiradau Arabaidd Unedig ar ail ran ei daith i wledydd y Gwlff wrth i'r cadoediad rhwng America ac Iran ddod o dan straen.

Mae Prif Weinidog y DU yn ymweld â chynghreiriaid yn y rhanbarth i drafod sut y gall y cadoediad pythefnos rhwng America ac Iran gael ei gynnal yn yr hirdymor, a pha gamau sydd eu hangen i sicrhau bod llongau yn cael teithio drwy Gulfor Hormuz eto.

Fe siaradodd â Thywysog Coron Saudi Arabia, Mohammed Bin Salman, yn Jeddah ddydd Mercher, ac mae disgwyl iddo gyfarfod ag Arlywydd yr Emiradau Arabaidd Unedig, Sheikh Mohamed bin Zayed Al Nahyan ddydd Iau.

Mae Syr Keir wedi croesawu’r saib yn yr ymladd rhwng America ac Iran, ond dywedodd ei bod hi’n "ddyddiau cynnar" a bod angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod Culfor Hormuz - lle mae 20% o olew y byd yn teithio drwyddo - yn ailagor eto.

Ond mae'n ymddangos fod y cadoediad, sy’n ddibynnol ar ailagor y culfor hanfodol, o dan fygythiad wrth i Iran ei gau unwaith eto nos Fercher yn dilyn ymosodiadau Israel ar y grŵp milwriaethus Hezbollah yn Libanus.

Mewn datganiad fore Iau, dywedodd Arlywydd Trump y bydd lluoedd ei wlad yn aros "yn eu lle" yn y rhanbarth nes bod Iran yn cydymffurfio'n llawn â'r cytundeb cadoediad "go iawn".

Mae Syr Keir wedi galw am weithredu'r cadoediad yn llawn, gan gynnwys yn Libanus, mewn datganiad ar y cyd â chynghreiriaid Ewropeaidd a Chanada, ac mae disgwyl i'r Ysgrifennydd Tramor Yvette Cooper i ailadrodd y neges mewn araith nos Iau.

Mae trafodaethau rhwng America ac Iran i fod i ddigwydd ym Mhacistan y penwythnos hwn, gyda Mr Vance a'r llysgennad Steve Witkoff yn bresennol o weinyddiaeth Trump.

Mae Syr Keir yn ceisio lleihau effaith economaidd y rhyfel ar y DU trwy agor Culfor Hormuz eto.

Roedd ymosodiadau'r Unol Daleithiau ac Israel ar Iran ac ymateb Tehran, gan gynnwys targedu gwledydd y Gwlff a chau'r culfor allweddol, wedi arwain at brisiau tanwydd ffosil i gynyddu ledled y byd.

Yn dilyn y cytundeb cadoediad a ddaeth yn hwyr ddydd Mawrth, roedd gostyngiad ym mhrisiau olew byd-eang.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.