Dafydd Iwan i berfformio 'Yma o Hyd' cyn ffeinal Cwpan Cymru
Bydd Dafydd Iwan yn perfformio ei anthem 'Yma o Hyd' cyn rownd derfynol Cwpan Cymru rhwng Caernarfon a'r Fflint ddydd Sul.
Fe fydd Caernarfon yn wynebu'r Fflint yn y rownd derfynol ar gae Rodney Parade yng Nghasnewydd.
Dyw'r Cofis erioed wedi ennill Cwpan Cymru, tra bod y Fflint wedi ennill y tlws ar un achlysur yn unig - a hynny yn 1954.
Nid dyma fydd y tro cyntaf i Dafydd Iwan berfformio cyn digwyddiad chwaraeon mawr yr wythnos hon.
Nos Sadwrn diwethaf fe wnaeth berfformio 'Yma o Hyd' cyn gornest bocsio Lauren Price. Fe lwyddodd Price i amddiffyn ei theitlau byd wedi iddi ennill yn erbyn Stephanie Pineiro yng Nghaerdydd.
Fe berfformiodd cyn gemau ail-gyfle Cwpan y Byd Cymru yn erbyn Awstria a Wcráin yn 2022, yn ogystal â chyn gemau Casnewydd a thîm rygbi'r Scarlets.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn annog cefnogwyr i gyrraedd y stadiwm erbyn 14:30 ddydd Sul i weld Dafydd Iwan yn perfformio.
Cafodd 'Yma o Hyd' ei recordio gan Dafydd Iwan a'r band gwerin Ar Log ym 1983 gyda'r neges o ddathlu goroesiad yr iaith a'r diwylliant Cymraeg dros y canrifoedd er gwaethaf ymdrechion i'w thramgwyddo.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae 'Yma o Hyd' fel pe bai wedi dod yn ail anthem genedlaethol Cymru wrth iddi gael ei chwarae o flaen cynulleidfa ehangach mewn gemau pêl-droed Cymru.
Daeth Dafydd Iwan yn adnabyddus yn y 1960au fel canwr-gyfansoddwr a oedd yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg ac achos Cymru annibynnol, yn ogystal â bod yn gyn-lywydd Plaid Cymru.