Dadorchuddio Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026
Mae Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 wedi’u dadorchuddio mewn digwyddiad arbennig yn Oriel Môn, Llangefni.
Cafodd y Gadair ei chreu gan y saer Siôn Edwards o Lanfaelog, Ynys Môn, yn seiliedig ar ddyluniad y pensaer Rhiannon Williams o Gaerwen, Sir Fôn.
Myfanwy Jones o Lanfairpwll, Ynys Môn, sydd wedi dylunio’r Goron eleni.
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydol Urdd Gobaith Cymru, bod Ynys Môn “wrth galon Cadair a Choron yr Urdd eleni.”
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal fel digwyddiad saith diwrnod am y tro cyntaf eleni, rhwng 23 a 29 Mai 2026.
Y Gadair
Mae’r Gadair yn waith dau berson o’r ynys eleni, gyda’r dyluniad yn seiliedig ar y thema “afonydd i’r môr”, sydd hefyd yn rhoi sylw i felinau gwynt yr ynys.
Mae Siôn Edwards, y saer sy’n gyfrifol am greu’r Gadair, yn gyn-athro Dylunio a Thechnoleg ac roedd “wedi cyffroi” pan glywodd am ddyluniad Rhiannon Williams ar gyfer y Gadair.
“Un o’m prif ddiddordebau i ydi pysgota, a dwi hefyd wedi sefydlu Cymdeithas Cadwraeth Cefni rai blynyddoedd yn ôl er mwyn gwella ansawdd yr afonydd yma ym Môn, felly roedd ‘afonydd i’r môr’ yn sicr wedi tanio brwdfrydedd!”
Ers gadael y byd addysg, mae Siôn bellach yn gweithio fel saer ar ei liwt ei hun ac mae’n angerddol am greu dyluniadau cynaliadwy a hirhoedlog.
“Ro’n i’n benderfynol o ffeindio coed cynaliadwy lleol o ansawdd, ac yn y diwedd, ar ôl chwilio a chwilio, fe weles i goeden onnen wedi ei melino draw yng Nghwm Cynfal, ger Blaenau Ffestiniog, ac ro’n i’n gwybod y byddai’n berffaith ar gyfer y gadair.”
Mae holl rannau’r Gadair yn ymddangos fel nodwedd addurniadol, ond mae modd hefyd adfer cymalau’r Gadair a’u hatgyweirio yn y dyfodol petai angen.
“Mae yna hanes lleol arbennig iawn i bren cymalau’r gadair,”
Mae darn o hen fad achub hanesyddol o Rosneigr bellach yn rhan o Gadair Eisteddfod Môn, sydd wedi ei noddi gan Gymdeithas Amaethyddol Môn.
Cafodd y bad achub, Thomas Lingham y 4ydd, ei chario’n ôl i’r pentref gan wirfoddolwyr yn ddiweddar i’w hachub rhag cael ei llosgi.
Yn ôl Siôn, fe adawodd y bad Rosneigr yn 1924, ac mae’n bosib ei bod wedi bod yn rhan o gyrch D-Day ar draethau Normandie.
Defnyddiodd Siôn sampl o bren y bad i wneud lletemau’r Gadair.
“Mae rhan fach o hanes rhyfeddol bad achub Rosneigr bellach yn rhan o Gadair Eisteddfod Môn hefyd,” meddai.
Bydd Seremoni’r Cadeirio yn cael ei chynnal ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod ac yn cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans.
Y Goron
Y gemydd Myfanwy Jones sydd wedi dylunio Coron Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026.
Symudodd Myfanwy yn ôl i’r ynys ar ôl byw yn Llundain am bymtheng mlynedd a chwblhau gradd mewn Dylunio Gemwaith ym mhrifysgol Central Saint Martins yn Llundain.
“Dwi erioed wedi dylunio Coron o’r blaen!” meddai Myfanwy, sy’n creu gemwaith drwy ddefnyddio’r dull arbenigol o gerfio cwyr.
Yn y gorffennol, mae hi wedi dylunio llawer o emwaith ar gyfer ffilm a theledu, yn ogystal â gweithio ar gomisiynau gemwaith cain yn ystod y blynyddoedd diweddar.
Cyn dechrau ar y dyluniad, fe wnaeth Myfanwy gynnal pôl ar Instagram i holi beth oedd yn dod i feddyliau pobl wrth feddwl am Ynys Môn.
“Yr ateb mwyaf poblogaidd oedd y traethau,” meddai.
Yn dilyn hynny, fe aeth ati i ymchwilio i draethau’r ynys a’i symbolau Celtaidd, ac mae’r themâu hynny’n ganolog i ddyluniad y Goron eleni.
Mae’r Goron wedi’i gwneud o bres, gyda dwy garreg opal a darnau bach o garreg jâd arni. Mae melfed gwyrdd ar y tu mewn, gyda’r cyfan yn adleisio lliwiau traethau’r ynys.
“Dwi’n edrych ymlaen at weld ymateb pobl i’r goron, ac at fynd i’r Eisteddfod hefyd,” meddai Myfanwy.
Ychwanegodd ei bod wedi dod o hyd yn ddiweddar i fedalau enillodd yn yr Urdd wrth ganu gyda’r côr pan oedd yn yr ysgol.
“Mi fydd yn braf iawn bod ar y maes yn fy milltir sgwâr, a gweld pwy sy’n ennill y goron,” meddai.
Bydd seremoni'r Goron ar ddydd Gwener yr Eisteddfod ac mae'n cael ei noddi gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydol Urdd Gobaith Cymru, “Mae Ynys Môn wrth galon Cadair a Choron yr Urdd eleni; mae eu cysylltiad â’r ynys i’w weld a’i deimlo ym mhob manylyn bach, o’r dyluniadau a’r deunyddiau i’r straeon a’r hanes sy’n rhan annatod ohonynt.
“Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at wythnos yn Eisteddfod, gan obeithio y bydd enillwyr yn cipio’r Gadair a’r Goron. Diolch o galon i’r crefftwyr talentog, y pwyllgorau a’r noddwyr am eu gwaith di-flino a’u cefnogaeth hael.”