‘Cywilyddus’: Beirniaid yn amau mai AI oedd wedi ysgrifennu un o nofelau cystadleuaeth Daniel Owen

‘Cywilyddus’: Beirniaid yn amau mai AI oedd wedi ysgrifennu un o nofelau cystadleuaeth Daniel Owen

Mae beirniaid cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod yn dweud eu bod nhw’n amau mai AI oedd wedi ysgrifennu un o’r nofelau a gafodd eu cyflwyno i'r gystadleuaeth eleni.

Wrth draddodi'r feirniadaeth ddydd Mawrth, dywedodd un o’r beirniaid, Meinir Wyn Edwards, ei fod yn “gywilyddus” bod rhywun wedi gyrru'r nofel i’r gystadleuaeth.

Rebecca Thomas wnaeth gipio Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, am ei nofel Ynys Gwales.

Y beirniaid eraill oedd Lleucu Roberts a Llwyd Owen.

Wrth agor y feirniadaeth, tynnodd Meinir Wyn Edwards sylw at un nofel benodol, sef Y Dderwen gan Lithedora oedd “yn cael ei gosod ar waelod y pentwr o naw”.

“Does dim cynllun na bwa storïol yn y nofel yma. Ac mae’r mynegiant carbwl a gwallus yn gwneud y cyfan bron yn amhosib ei ddarllen.

“Cymaint felly nes ein bod ni’n yn amau mai peiriant deallusrwydd artiffisial sydd wedi creu'r nofel a bod yr awdur ddim wedi trafferthu darllen dros y gwaith chwaith.

“Yn ôl Llwyd Owen, yr unig gysur yw hyn - os mai dyma'r gorau sydd gan ein darpar uwch-arglwyddi i’w gynnig, mae dyfodol llenyddiaeth Cymru yn ddiogel.

“A dweud y gwir mae’n gywilyddus bod rhywun wedi gwneud y penderfyniad i anfon y fath nofel i gystadleuaeth mor bwysig â hon.”

‘Gwrachod’

Fore dydd Mawrth roedd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, wedi ateb cwestiwn am ddefnydd posib AI yng nghystadlaethau’r Eisteddfod.

Dywedodd bryd hynny wrth Newyddion S4C ei bod yn cynnal trafodaethau ”mynych” er mwyn “mynd i’r afael” ag oblygiadau'r defnydd posib AI mewn cystadlaethau.

Mae rheolau’r Eisteddfod yn nodi nad oes modd i gystadleuwyr ddefnyddio AI i greu cyfansoddiadau ‘oni nodir yn wahanol'.

Wrth ymateb, dywedodd Betsan Moses: “Ni wedi trafod gyda nifer o arbenigwyr AI, a beth maen nhw’n ei ddweud ydi bod y dechnoleg yn datblygu.

“Mae yna systemau yn cael eu datblygu gan rai o’n prifysgolion, a da’ ni wedi cael trafodaethau gyda rheini i weld, i wirio.

“Wrth gwrs, un o’r pethau rydan ni yn gofyn, fel gyda phob cystadleuaeth, y’n ni’n gofyn i’r cystadleuwyr i barchu'r rheolau.

“I chi nodi mai eich gwaith gwreiddiol chi yw e ond gyda hynny y’n ni’n cadw ffydd yn ein cystadleuwyr eu bod nhw’n driw i’r broses.

“Ond y’n ni yn cael trafodaethau mynych gydag arbenigwyr er mwyn gweld beth allwn ni ei wneud ar gyfer mynd i’r afael a hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.