Cynnydd yn nifer plismyn Cymru sydd wedi'u gwahardd o'u gwaith

Heddlua

Mae nifer y swyddogion heddlu sydd wedi cael eu gwahardd rhag gwasanaethu yng Nghymru bron wedi dyblu o gymharu â phedair blynedd yn ôl, yn ôl ffigyrau newydd.

Cafodd 28 o swyddogion eu gwahardd yn ystod y flwyddyn hyd at ddiwedd mis Mawrth 2026, o gymharu â 15 yn 2021/22.

Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i'r nifer yng Nghymru fod yn 28 neu'n uwch, er iddo aros yr un fath â'r flwyddyn flaenorol.

Ar draws Cymru a Lloegr, cafodd 757 o swyddogion eu hychwanegu at restr o unigolion sydd wedi'u gwahardd rhag gweithio i'r heddlu, y nifer uchaf mewn un flwyddyn ers cyflwyno'r rhestr yn 2017.

Mae hynny'n gynnydd o'i gymharu â 735 yn 2024/25 a 594 yn 2023/24.

Y sefyllfa yng Nghymru

Yn ôl adroddiad newydd gan y Coleg Plismona, Heddlu De Cymru oedd â'r nifer uchaf o swyddogion wedi'u gwahardd yng Nghymru yn ystod 2025/26, sef 15.

Mae nifer Heddlu Gwent wedi dyblu o bedwar i wyth ers y flwyddyn flaenorol, tra bod niferoedd Heddlu Dyfed-Powys wedi gostwng o chwech i un.

Cafodd pedwar o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru eu gwahardd.

O'r 28 o swyddogion yng Nghymru, roedd 11 wedi cael eu diswyddo tra oeddent yn dal yn gwasanaethu, ac roedd 17 wedi cael eu hychwanegu at y rhestr ar ôl ymddiswyddo.

Mae'r rhestr yn atal swyddogion sy'n cael eu diswyddo am dorri safonau proffesiynol rhag dychwelyd i weithio yn y gwasanaeth.

Mae hefyd yn cynnwys swyddogion sydd wedi ymddiswyddo neu ymddeol tra bod ymchwiliad i'w hymddygiad yn mynd rhagddo, ac y byddent wedi cael eu diswyddo pe baent yn dal yn gwasanaethu.

Ers cyflwyno'r rhestr ym mis Rhagfyr 2017, mae cyfanswm o 182 o swyddogion o'r pedwar heddlu yng Nghymru wedi cael eu hychwanegu ati.

Image
Coleg Plismona

Ar draws Cymru a Lloegr, roedd anonestrwydd yn un o'r rhesymau dros ddiswyddo swyddogion mewn 142 o achosion, ymddygiad gwahaniaethol mewn 110 o achosion, a chael mynediad anghyfreithlon at wybodaeth neu ei ddatgelu mewn 101 o achosion.

Roedd 87 o achosion yn ymwneud â throseddau rhyw neu gamymddwyn rhywiol.

Roedd chwe achos yn ymwneud â throseddau rhyw yn erbyn plant, pump yn ymwneud â threisio a 46 yn ymwneud â chamddefnyddio safle o awdurdod at ddibenion rhywiol.

Mae'r adroddiad yn nodi bod modd cofnodi mwy nag un rheswm dros ddiswyddo swyddog.

Roedd mwyafrif y 757 o swyddogion gafodd eu gwahardd yn gwnstabliaid heddlu, sef 641.

Heddlu'r Met yn Llundain oedd â'r nifer uchaf o swyddogion wedi'u hychwanegu at y rhestr, sef 195, gyda 46 o Heddlu Manceinion.

'Plismona wedi'i adeiladu ar ymddiriedaeth'

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Arman Mathieson, cyfarwyddwr safonau gweithredol y Coleg Plismona, fod y ffigyrau'n dangos bod y gwasanaeth yn barod i weithredu pan fydd swyddogion yn torri ymddiriedaeth y cyhoedd.

"Mae plismona wedi'i adeiladu ar ymddiriedaeth ac mae'r ffigyrau hyn yn dangos na fyddwn yn oedi cyn gweithredu pan fydd yr ymddiriedaeth honno'n cael ei thorri," meddai.

"Mae 757 o swyddogion wedi cael eu diswyddo a'u gwahardd rhag gwasanaethu eto, gan gynnwys y rhai wnaeth ymddeol neu ymddiswyddo tra oedd ymchwiliad yn mynd rhagddo.

"Mae hyn yn cynrychioli 0.5% o'r holl swyddogion sy'n gwasanaethu, gyda'r mwyafrif helaeth yn cyflawni eu dyletswyddau gyda dewrder, proffesiynoldeb ac uniondeb."

Ychwanegodd fod pawb yn haeddu gwasanaeth heddlu sy'n mynd i'r afael â'r rhai sy'n methu â chyrraedd y safonau disgwyliedig.

Staff yr heddlu

Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod 13 o aelodau staff yr heddlu yng Nghymru wedi cael eu gwahardd yn ystod 2025/26, o gymharu â 18 y flwyddyn flaenorol.

Roedd wyth o'r rhain yn gweithio i Heddlu De Cymru, pedwar i Heddlu Gogledd Cymru ac un i Heddlu Gwent.

Doedd dim aelodau staff o Heddlu Dyfed-Powys wedi cael eu hychwanegu at y rhestr.

Ar draws Cymru a Lloegr, cafodd 348 o aelodau staff yr heddlu eu gwahardd, cynnydd o'i gymharu â 280 y flwyddyn flaenorol.

Cafodd 25 o swyddogion heddlu gwirfoddol hefyd eu hychwanegu at y rhestr, ond doedd dim un ohonynt yn gwasanaethu gyda'r pedwar heddlu yng Nghymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.