Cynnydd yn nifer yr e-feiciau a gafodd eu meddiannu yng Nghymru

E-feiciau

Mae nifer yr e-feiciau a gafodd eu meddiannu yng Nghymru wedi cynyddu 46% mewn blwyddyn, yn ôl ffigurau newydd.

Roedd cynnydd 86% yn nifer yr e-feiciau a gafodd eu meddiannu gan Heddlu De Cymru yn unig, o 100 i 186, rhwng 2024/25 a 2025/26.

Roedd cynnydd hefyd o 59 o arestiadau yn ardal Heddlu Gwent i 64 yn y cyfnod hyd at Fai 19 eleni, yn ôl y data a gafodd ei ryddhau drwy gais rhyddid gwybodaeth.

Syrthiodd nifer yr e-feiciau a gafodd eu meddiannu gan Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Dyfed-Powys o 10 ac 14 i naw yr un.

Cafodd tua 7,049 o’r beiciau eu meddiannu ledled y DU yn ystod y cyfnod dan sylw. Mae hynny’n cymharu â 3,858 yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Yn ystod ymgyrch ddiweddar i fynd i’r afael ag e-feiciau yng Nghaerdydd, fe wnaeth Heddlu De Cymru arestio pedwar beiciwr ar amheuaeth o droseddau cyffuriau, ar ôl dod o hyd i 33 pecyn bach o grac cocên a heroin gwerth tua £1,000 ym meddiant dyn yn ei 20au.

Mewn achos ar wahan, cafodd cerddwr ei anafu’n ddifrifol ar ôl cael ei daro gan e-feic a oedd yn cael ei reidio gan ddyn ar gyflymder o tua 25mya ar ffordd yng Nghaerdydd ar Hydref 26 y llynedd.

Mae llawer o’r e-feiciau anghyfreithlon y mae’r heddlu’n eu meddiannu wedi cael eu haddasu i deithio’n llawer cyflymach, gyda rhai’n gallu teithio’n gynt na 70mya.

Yn ogystal â chael eu defnyddio i gyflawni troseddau, mae e-feiciau anghyfreithlon hefyd yn cael eu defnyddio’n aml ar gyfer teithiau dilys, fel cludo bwyd a chymudo.

Rhybuddiodd yr elusen diogelwch cerddwyr Living Streets na ddylai “cynnydd yn y defnydd o e-feiciau ddod ar draul pobl sy’n cerdded”. 

Dywedodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall fod e-feiciau’n “gerbydau trwm sy’n symud yn gyflym ac yn ddistaw” ac yn berygl pan fyddant “yn cael eu reidio’n ddiofal”.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU, sydd hefyd yn gyfrifol am gyfraith a phlismona yng Nghymru nad oedd “lle ar ein ffyrdd na’n palmentydd i e-feiciau anghyfreithlon sy’n gallu cyrraedd cyflymderau peryglus”.

“Mae’r cynnydd yn nifer y rhai sy’n cael eu meddiannu’n dangos maint y broblem y mae’r heddlu’n delio â hi,” medden nhw.

“Dyna pam rydym wedi cryfhau pwerau’r heddlu, gan newid y gyfraith fel nad oes angen i swyddogion roi rhybudd mwyach cyn meddiannu’r cerbydau hyn pan fyddant yn cael eu defnyddio mewn ffordd wrthgymdeithasol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.