Cynllun i adeiladau adweithyddion niwclear ger Maesteg yn destun gwrthwynebiad

Dyluniad o brosiect adweithyddion niwclear ger Masteg
Dyluniad o'r prosiect adweithyddion niwclear ger Masteg

Mae deiseb wedi ei chreu gan ymgyrchwyr lleol yn datgan eu gwrthwynebiad i gynllun i adeiladu pedwar adweithydd niwclear bychan yng Nghwm Llynfi ger Maesteg.

Dywed cwmni Last Energy y bydd yr adweithfeydd yn cynhyrchu 20 megawat ac yn cael eu hariannu yn breifat.

Ond mae ymgyrchwyr yn dadlau  y bydd yn cael "effaith negyddol ar ein hiechyd a'n hamgylchedd am genedlaethau i ddod" os bydd y cynllun yn cael ei ddatblygu.

Mae Friends of the Earth Cymru wedi dechrau deiseb sydd yn honni nad yw ynni niwclear yn ddiogel nac yn lân.

Hyd yn hyn mae dros 1,500 o lofnodion ar y ddeiseb.

Costus

Mae'r ddeiseb hefyd yn dweud nad trydan rhad fydd yn cael ei gynhyrchu: "Yn anffodus, mae cymunedau fel ein un ni yn aml yn cael eu gadael gyda chostau glanhau o gwmnïau yn echdynnu adnoddau ar gyfer eu helw. Ni allwn adael i hynny ddigwydd yma."

Dywed yr ymgyrchwyr hefyd mai gwerthu’r ynni yn syth i fusnesau yn bennaf fydd y cynllun, ac nid er lles y gymuned leol.

"Ni fyddwn yn elwa o’r ynni hwn", meddai'r ddeiseb.

Mae Last Energy wedi bod yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Gorffennaf er mwyn clywed barn trigolion lleol. 

Fe wnaeth y cwmni gyhoeddi yn 2024 ei fwriad ar gyfer y safle. 

'Prosiect Egni Glân Llynfi’ yw'r enw ar y datblygiad a byddai yn meddiannu ardal sy'n cyfateb i tua 14 erw o dir ar safle Gorsaf Bŵer Llynfi.

Bwriad y cwmni oedd buddsoddi £300m yn y prosiect a chwblhau'r gwaith erbyn 2027. 

Roedden nhw yn dweud y byddai £30m o fudd i'r economi leol ac y byddai o leiaf 100 o swyddi llawn amser yn cael eu creu i bobl leol.

Ym mis Mehefin eleni fe wnaeth y cwmni rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru o'u bwriad i wneud cais am brosiect seilwaith arwyddocaol. 

Mae rhain yn brosiectau mawr fel rhai ynni, trafnidiaeth a dŵr lle mae'n rhaid cael caniatâd cynllunio'r llywodraeth cyn bwrw ymlaen.

Wrth geisio am drwydded safle i'r prosiect y llynedd, dywedodd Prif Weithredwr y cwmni, Michael Jenner bod y cam yn "garreg filltir allweddol arall er mwyn datgloi ynni niwclear ar raddfa yn y DU, a fydd yn ymateb i alw cynyddol am egni a lleddfu ar gyfyngiadau'r grid."

Mae Newyddion S4C wedi gofyn i gwmni Last Energy am ymateb.

Llun: Last Energy

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.