Cyngor Sir Penfro yn cadarnhau penderfyniad i gau dwy ysgol gynradd
Mae Cyngor Sir Penfro wedi pleidleisio i gadarnhau penderfyniadau blaenorol i gau dwy ysgol gynradd, er bod yr awdurdod yn wynebu her gyfreithiol bosibl gan Esgobaeth Tyddewi ar ddyfodol un o’r ysgolion hynny.
Mewn cyfarfod arbennig yn Neuadd y Sir, roedd y cynghorwyr yn ystyried dyfodol Ysgol Clydau ym mhentref Tegryn yng ngogledd y sir a Maenorbŷr yn y de.
Wrth annerch y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Iwan Ward, yr aelod lleol dros Degryn, mai’r ysgol oedd “curiad calon” oedd y gymuned lle roedd y “Gymraeg a diwylliant Cymraeg yn cael eu meithrin.”
Mewn apêl emosiynol, dywedodd y Cynghorydd Ward, bod yna gyfle i gynghorwyr ddangos bod “lleisiau pobl leol yn bwysig.”
Dywedodd y Cynghorydd Huw Murphy y byddai ysgolion eraill dan fygythiad petai’r cynghorwyr yn cefnogi’r argymhelliad i gau Ysgol Clydau.
Wrth gefnogi’r argymhelliad i gau, dywedodd y Cynghorydd John Davies bod sefyllfa Clydau yn “symptom o’r darlun ehangach” a’r dirywiad yn niferoedd y disgyblion yng nghefn gwlad a’r “diboblogi” oedd bellach yn digwydd.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, yr aelod cabinet dros addysg, mai dim ond 15 o ddisgyblion fyddai ar gofrestr Clydau ym mis Medi petai'n aros ar agor.
Fe bleidleisiodd 30 o blaid cau Ysgol Clydau; roedd 21 yn erbyn ac fe wnaeth 1 ymatal ei bleidlais.
Bygythiad cyfreithiol
Mae plant Maenorbŷr wedi gorfod cael eu haddysgu mewn neuadd bentref yn Jameston ers i dân ddifrodi’r ysgol bron i bedair blynedd yn ôl.
Fe wnaed addewid yn wreiddiol i ail adeiladu’r ysgol.
Mae’r ysgol yn Maenorbŷr yn un wirfoddol a reolir sydd yn golygu bod yna gysylltiad agos â’r Eglwys yng Nghymru, er ei bod hi’n cael ei hariannu gan y cyngor.
Cyn y cyfarfod, roedd Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi wedi anfon llythyr cyfreithiol at y cyngor yn galw ar yr awdurdod i ail adeiladu Ysgol Maenorbŷr a chyhuddo’r cyngor o gynnal proses ymgynghori ddiffygiol. Mae’r esgobaeth wedi bygwth achos cyfreithiol ac adolygiad barnwrol os ydy’r cyngor yn bwrw ymlaen gyda’r broses o gau’r ysgol.
Yn y cyfarfod, fe rybuddiodd y Cynghorydd Phil Kidney na fyddai’r esgobaeth yn “barod i ildio” ac y gallai hyn “gostio llawer iawn o arian i’r awdurdod.”
Fe alwodd ar ei gyd gynghorwyr i “wneud y peth iawn a chadw Maenorbŷr ar agor.”
Dywedodd cynghorydd annibynnol arall, Jamie Adams, ei fod e’n teimlo bod “uwch swyddogion wedi ei fethu” ar y mater, yn sgil y bygythiad cyfreithiol gan yr eglwys.
Fe wnaeth yr aelod cabinet dros addysg, Paul Miller, ddweud taw “ei unig ddiddordeb oedd lles y plant a’u haddysg.” Dywedodd bod y gost o addysgu plant Maenorbŷr rhyw £3,300 y pen yn uwch na’r cyfartaledd ar draws Sir Benfro.
Mae 21 o ddisgyblion yn cael eu haddysgu mewn neuadd bentref yn Jameston ers y tân.
Dywedodd y Cynghorydd Ceidwadol, Aled Thomas, sydd yn gadeirydd y grwp ar ddyfodol ysgolion bod “rhaid meddwl am y plant” wrth bleidleisio a rhoi “diogelwch a sefydlogrwydd i’r plant.”
Yn ôl yr aelod cabinet, Paul Miller, mae’r bygythiad cyfreithiol gan yr Esgobaeth yn cynrychioli “un ochr” mewn dadl sydd yn parhau, ac fe fydd y cyngor sir yn cymryd “cyngor cyfreithiol” cyn ymateb.
Fe alwodd y Cynghorydd Huw Murphy am ymchwiliad i’r sefyllfa yn ymwneud ag Ysgol Maenorbŷr.
Wrth grynhoi’r drafodaeth, dywedodd y Cynghorydd Miller ei fod e’n “gwneud beth oedd e’n meddwl oedd orau i’r plant” a thaw’r prif gymhelliad oedd addysg y disgyblion.
Fe bleidleisiodd 30 o blaid yr argymhelliad i gau ; roedd 23 yn erbyn a 4 wedi ymatal eu pleidlais
