Cyngor Sir Gâr yn pleidleisio o blaid cau Ysgol Llansteffan

Newyddion S4C
LLANSTEFFAN

Mae aelodau Cyngor Sir Caerfyrddin wedi pleidleisio o blaid cau Ysgol Llansteffan, gyda drysau’r ysgol i gau yn swyddogol ar ddiwedd mis Awst.

Fe fydd y disgyblion yn symud i ddalgylch Ysgol Llangain.

Cafodd y cynnig i gau’r ysgol ei gyflwyno yn ffurfiol gan yr aelod cabinet ar gyfer addysg, y Cynghorydd Glynog Davies.

Dywedodd bod rhaid “gwneud penderfyniadau anodd” ar adegau ond bod 1000 o blant yn llai yn ysgolion Sir Gâr o gymharu â’r cyfnod cyn covid.

Fe wnaeth y Cynghorydd Davies gyfaddef bod nifer y disgyblion yn Ysgol Llansteffan wedi dwblu o 8 i 16 mewn blwyddyn ond nad oedd yr ysgol yn “gynaliadwy.”

Bu disgyblion a rhieni, ynghyd ag aelodau Cymdeithas yr Iaith yn lobio cynghorwyr cyn y cyfarfod, gan alw am oedi’r broses yn sgil cynnydd yn nifer y disgyblion.

Er i’r bleidlais i gau’r ysgol gael cefnogaeth mwyafrif y cynghorwyr, penderfynodd dau aelod o grŵp Plaid Cymru, sydd yn cyd-reoli’r cyngor, nad oedden nhw yn gefnogol i’r cynnig.

Pleidleisiodd y cynghorydd Jean Lewis yn erbyn y cynnig ac fe benderfynodd y Cynghorydd Meinir James i atal ei phleidlais.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.