Cynghrair y Cenhedloedd: Perfformiad addawol ond Cymru yn colli yn erbyn Portiwgal
Mae Cymru wedi colli 1-0 yn erbyn Portiwgal yn eu gêm agoriadol yn Adran A o Gynghrair y Cenhedloedd nos Iau.
Roedd tîm Craig Bellamy heb Harry Wilson, Nathan Broadhead a Karl Darlow, a wnaeth adael y garfan oherwydd anafiadau.
Roedd chwe newid i Gymru o gymharu â'r tîm a gollodd 2-1 yn erbyn Romania yn Bucharest dros yr haf, gyda Lewis Koumas yn dechrau i Gymru.
Hanner cyntaf
Fe ddechreuodd Cymru yn addawol gan ymosod yn gryf a dechrau ar y droed flaen.
Ond wrth i'r gêm nesáu tuag at 10 munud fe wibiodd Cristiano Ronaldo i'r cwrt cosbi gan geisio croesi'r bêl i gefn y rhwyd.
Yn ffodus i Gymru, fe aeth yr ergyd yn llydan.
Fe wnaeth Portiwgal ddechrau darganfod eu rhythm wrth i'r hanner cyntaf fynd ymlaen, gyda Ruben Dias yn penio dros y trawst.
Llwyddodd y tîm cartref i ddarganfod cefn y rhwyd ar ôl 22 munud, gydag ergyd Joao Felix o du allan y cwrt cosbi yn gwyro oddi ar Ben Davies, ac yn curo Danny Ward yn y gôl.
Un gôl oedd yn parhau rhwng y ddau dîm wrth i'r gêm gyrraedd 30 munud, gyda Phortiwgal yn parhau i fygwth ond Cymru yn parhau i amddiffyn.
Cafodd Cristiano Ronaldo gyfle i ergydio o gic rydd ar ôl 35 munud, ond ni lwyddodd y bêl i fynd heibio wal amddiffynol Cymru yn y cwrt cosbi.
Fe ymatebodd y Wal Goch a oedd wedi teithio i Lisbon i ergyd siomedig Ronaldo drwy ganu enw Gareth Bale.
Portiwgal oedd yn hawlio'r meddiant wrth i'r hanner cyntaf dynnu at ei derfyn, ond roedd Cymru yn dal eu tir drwy amddiffyn yn gryf ac atal y tîm cartref rhag sgorio ail gôl.
Ail hanner
Nid oedd yna unrhyw newid i'r ddau dîm ar ddechrau'r ail hanner.
Roedd Cymru yn gobeithio am gic o'r smotyn ar ddechrau'r ail hanner, gyda Joao Cancelo yn taclo Brennan Johnson yn y cwrt cosbi, ond nid oedd y dyfarnwr yn cytuno ei fod yn drosedd.
Er mai Portiwgal oedd yn meddiannu'r bêl wrth i'r hanner fynd yn ei flaen, fe gafodd David Brooks gyfle i'w gwneud hi'n gyfartal ar ôl 56 munud ond fe aeth y bêl yn llydan.
Ychydig funudau wedyn, fe wnaeth Fernandes basio yn hyfryd i ddarganfod Ronaldo a wnaeth daro'r bêl i gefn y rhwyd - ond fe wnaeth y VAR ddyfarnu bod capten Portiwgal yn camsefyll.
Y tîm cartref oedd yn parhau i fygwth, a Chymru yn gwneud yn dda wrth amddiffyn a pharhau i'w chadw hi'n 1-0.
Daeth y cyfle i ffarwelio â Ronaldo gyda'r seren byd-enwog yn gadael y cae ar ôl 66 munud.
Roedd yna eilyddio i Gymru hefyd, gyda Ben Cabango yn gadael y cae gydag anaf a Chris Mepham yn dod ymlaen yn ei le.
Cafodd Gymru gyfle ychydig funudau yn ddiweddarach, gyda chroesiad yn cyrraedd Brennan Johnson.
Fe wnaeth y bêl adlamu oddi ar y trawst cyn i Dan James a Lewis Koumas fynd ar draws ei gilydd gan olygu nad oedd neb yn gallu rhoi'r bêl yng nghefn y rhwyd.
Daeth Kieffer Moore a Sorba Thomas ymlaen ar gyfer Lewis Koumas a Jordan James gyda ychydig dros 10 munud i fynd.
Gyda'r Wal Goch yn atseinio, roedd gobaith o hyd i Gymru i'w gwneud hi'n gêm gyfartal gyda thîm Craig Bellamy yn gorfodi Portiwgal i wneud camgymeriadau ar ddiwedd y gêm.
Ond er yr ymdrech tan y funud olaf, gôl Joao Felix o'r hanner cyntaf oedd y gwahaniaeth. Y sgôr terfynol: 1-0.
Fe fydd Cymru yn wynebu Denmarc yn Copenhagen ddydd Sul, cyn herio Norwy yng Nghaerdydd ar 1 Hydref a Denmarc gartref dridiau yn ddiweddarach.