Cyn uwch-reolwr S4C yn honni iddi ddioddef 'methiant ar ei chalon' oherwydd straen
Mae un o gyn-reolwyr S4C yn dweud iddi ddioddef methiant ar ei chalon oherwydd straen wedi i'r cyn-brif weithredwr "godi chywilydd" arni a'i "beirniadu" yn ôl dogfennau llys.
Cyn-gyfarwyddwr platfformau'r darlledwr, Amanda Rees, sydd yn dwyn achos uchel lys yn erbyn y darlledwr, gan ddweud i S4C fod yn "esgeulus" ac wedi "torri dyletswydd statudol" i'w hamddiffyn hi a staff eraill.
Dweud eu bod nhw "wedi cyflwyno amddiffyniad cadarn yn erbyn yr honiadau a wnaed" mae S4C, gan nodi yn eu hamddiffyniad na rannodd Amanda Rees ei phryderon iechyd gyda nhw na defnyddio'r gwasanaethau cymorth oedd ar gael iddi fel gweithiwr S4C.
Amanda Rees yw'r trydydd cyn uwch-reolwr S4C, sydd yn cael ei ariannu yn bennaf drwy'r ffi drwydded, i ddwyn achos uchel lys yn erbyn ei chyn-gyflogwr.
Setlodd y cyn brif weithredwr, Sian Doyle, a'r cyn-brif swyddog cynnwys, Llinos Griffin-Williams, ddadleuon cyfreithiol y tu allan i'r llys yn ddiweddar.
Yn ôl adroddiadau, derbyniodd y ddwy setliadau swmpus gwerth cannoedd o filoeddd o bunnoedd i ddod â'u hawliadau cyfreithiol i ben. Yn ôl ffynonellau yn S4C, chafodd dim arian cyhoeddus ei wario ar y setliadau eu hunain.
Serch hynny, mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan Newyddion S4C, mae'r darlledwr wedi datgelu am y tro cyntaf iddyn nhw wario £110,358 ar ffioedd cyfreithiol wrth ymladd hawliadau Sian Doyle a Llinos Griffin-Williams.
Dywedodd S4C i'r arian ddod o gronfeydd wrth gefn ac na wnaeth hynny effeithio ar gyllidebau creu na datblygu cynnwys.
Roedd Sian Doyle a Llinos Griffin-Williams wedi cael eu diswyddo cyn dod ag achosion yn erbyn eu cyn-gyflogwyr.
Cafodd Sian Doyle ei diswyddo o'i swydd fel prif weithredwr wedi i ymchwiliad hir gan gwmni cyfreithiol allanol adrodd iddi ymddwyn mewn modd "unbenaethol" a'i bod yn gyfrifol am greu "diwylliant o ofn" yn ystod ei chyfnod wrth y llyw yn S4C.
Ar y pryd, dywedodd Ms Doyle nad oedd hi'n "adnabod na chydnabod" yr honiadau.
Cafodd Ms Griffin-Williams ei diswyddo ym mis Hydref 2023 wedi honiadau iddi gam-drin cyn-fewnwr Cymru Mike Phillips yn eiriol tra'n feddw wedi gêm rygbi yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd.
Gadawodd Amanda Rees ei swydd fel cyfarwyddwr platfformau S4C yn Hydref 2023. Roedd hi wedi bod i ffwrdd o'i gwaith oherwydd salwch ers mis Chwefror y flwyddyn honno.
Mewn dogfen a gafodd ei hanfon at yr Uchel Lys, ac sydd wedi ei rhannu â rhaglen Newyddion S4C, mae hi'n amlinellu cyfres o gwynion yn erbyn y darlledwr, gan ddweud i S4C fethu yn eu dyletswydd i'w hamddiffyn hi rhag niwed.
Dywedodd y ddogfen i Ms Doyle ddefnyddio dull rheoli oedd yn "ddigyfaddawd, anhyblyg" ac yn "achosi rhwygiadau" ac iddi "fwlio" Ms Rees drwy ei "bychanu a sarhau".
Mae cyfreithwyr ar ran Amanda Rees yn honni y byddai Ms Doyle yn aml yn defnyddio'r ymadrodd "saethwch un a bydd mil yn crynu" ac iddi ddweud wrth Ms Rees "dwyt ti ddim angen ymddiriedaeth i greu newid, mae angen creu pryder i gael newid."
Yn ôl y ddogfen, roedd Ms Doyle yn "anghwrtais" ac yn "gas" am weithwyr S4C, gan ddefnyddio iaith "fychanol, garw, a sarhaus amdanyn nhw".
Dywedodd Ms Rees iddi gael ei thanseilio gan Ms Doyle, gyda nifer o'i dyletswyddau gwaith wedi eu cynnig i eraill. Mae'n dweud iddi godi pryderon am ymddygiad Ms Doyle gydag uwch-reolwyr a'r adran adnoddau dynol cyn i undeb Bectu hefyd godi pryderon arweiniodd at ymchwiliad annibynnol cwmni cyfreithiol Capital law.
Mewn datganiad i raglen Newyddion S4C, dywedodd Sian Doyle y byddai'n "gwrthbrofi'r holl honiadau" yn ei herbyn, gan ddweud eu bod nhw'n "ffeithiol anghywir a/neu wedi eu cymryd o'u cyd-destun yn llwyr".
Mae Llinos Griffin-Williams hefyd yn cael ei beirniadu yn yr hawliad, gyda honiad iddi "fabwysiadu dull arwain tebyg i Sian Doyle" arweiniodd at "greu diwylliant corfforaethol gwenwynig dros ben" lle roedd "bygythiadau a rhaniadau....wedi eu meithrin yn fwriadol gan Sian Doyle a Ms Griffin-Williams."
Fel uwch-reolwr, mae honiad i aelodau staff ymddiried yn Amanda Rees, "rhai yn eu dagrau wrth ddisgrifio eu hofnau a'u rhwystredigaeth". Mae honiad i un aelod o staff ddioddef "argyfwng iechyd meddwl difrifol" wedi sgwrs gyda hi am eu pryderon.
Gwadu'r honiadau yn ei herbyn mae Llinos Griffin-Williams hefyd, gan ddweud mewn datganiad i Newyddion S4C: "Dangosais garedigrwydd, parch a phroffesiynoldeb i Amanda Rees ar bob adeg. Dyw'r achos hwn ddim yn hawliad yn fy erbyn i."
Caiff dau ddigwyddiad mewn diwrnodau i reolwyr eu crybwyll yn amlinelliad achos Ms Rees. Honnir i Ms Doyle ddefnyddio iaith gref i ddweud yr hoffai hi roi'r holl dim comisiynu ar y clwt gan eu bod yn "lletchwith a gelyniaethus".
Yn ôl dogfennau'r llys, dioddefodd Ms Rees fethiant ar ei chalon oherwydd straen y diwrnod canlynol, wedi sgwrs "fywiog" arall gyda Sian Doyle am allu gweithwyr S4C i gwblhau eu gwaith.
Dywedodd Ms Rees yn y ddogfen bod "gofid hirhoedlog gweithio i S4C" wedi "tanseilio ei hyder proffesiynol ac erydu ei gwytnwch emosiynol a seicolegol."
Yn ei datganiad, dywedodd Sian Doyle iddi gael ei "phenodi i arwain S4C ar adeg dyngedfennol i drawsnewid darlledwr oedd yn tanberfformio a mynd i'r afael â diwylliant oedd wedi ei hen sefydlu."
Gan bwysleisio mai yn erbyn S4C nid yn ei herbyn hi mae'r hawliad, dywedodd y byddai'n croesawu cael ei galw fel tyst "yn llwyr" ac y byddai'r "holl wirionedd, wedi ei gyflwyno ynghyd â thystiolaeth fanwl...yn siarad dros ei hun."
Mae amddiffyniad S4C i'r llys yn gwadu nifer o honiadau Amanda Rees.
Awgryma'r darlledwr na wnaeth hi "ar unrhyw adeg roi gwybod [i S4C] eu bod mewn perygl o niwed o achos straen a/neu ymddygiad eraill", i'w chontract gwaith gael ei ymestyn ddwy waith, ac iddi gael chwe mis o dâl tra i ffwrdd o'r gwaith yn dost, cyn i'w chyfnod fel cyfarwyddwr platfformau ddod i ben.
O ran y digwyddiad ar y diwrnod i uwch-reolwyr, dywed S4C nad oedd "unrhyw beth anaddas" am yr hyn fynegodd Sian Doyle ac na chafodd "unrhyw beth ei gyfeirio" at Amanda Rees yn bersonol.
Mae'r darlledwr hefyd yn cyfeirio at bryderon iechyd blaenorol yng nghofnodion Ms Rees, gan gynnwys cyflyrau ar ei chalon, gan honni na chafodd rheiny eu rhannu â nhw fel cyflogwyr.