Cyn-brif weithredwr yr SNP yn pledio’n euog i ddwyn £400,000 o arian y blaid
Mae cyn-brif weithredwr yr SNP, Peter Murrell, wedi pledio’n euog i ddwyn dros £400,000 oddi wrth y blaid wleidyddol.
Fe wnaeth Murrell gyfaddef y cyhuddiadau o embeslu (embezzle) yr arian pan ymddangosodd yn y llys fore Llun, ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa. Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 23 Mehefin.
Mae’r cyn-brif weithredwr yn parhau yn ŵr i gyn-Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ond mae’r ddau wedi gwahanu.
Roedd wedi ei gyhuddo o ddwyn yr arian oddi wrth Blaid Genedlaethol yr Alban rhwng Awst 2010 a Hydref 2022.
Fe wnaeth gyfaddef i gyhuddiad diwygiedig a oedd yn gostwng swm yr arian a gafodd ei ladrata o fwy na £459,000, i £400,310.65.
Cyrhaeddodd yr Uchel Lys ddydd Llun yn gwisgo siwt ddu a thei du.
Mae Murrell, 61 oed, wedi cyfaddef defnyddio arian yr SNP i brynu eitemau gan gynnwys cartref moduro a nwyddau moethus, ac i gyfrannu tuag at brynu dau gar.
Cafodd cyn-bennaeth y blaid ei arestio gyntaf ym mis Ebrill 2023 fel rhan o ymchwiliad yr heddlu i gyllid yr SNP, ac fe gafodd ei gyhuddo ym mis Ebrill 2024.
Ymddangosodd yn Llys Sir Caeredin ym mis Mawrth 2025, lle roedd yn wynebu cyhuddiad o ladrata, ond ni wnaeth gyflwyno ple.
Roedd y ditiad (indictment) yn cynnwys honiadau bod Murrell wedi defnyddio arian y blaid yn 2020 i brynu cartref modur gwerth £124,550 at ei ddefnydd personol ei hun.
Hyd nes iddo ymddiswyddo yn 2023 yn ystod y ras arweinyddiaeth i olynu Ms Sturgeon, roedd Murrell wedi bod yn brif weithredwr yr SNP am fwy nag 20 mlynedd.
Roedden nhw gynt yn un o’r cyplau mwyaf pwerus yng ngwleidyddiaeth y DU am flynyddoedd lawer.
Fe wnaeth Ms Sturgeon wasanaethu am fwy nag wyth mlynedd fel prif weinidog yr Alban ac arweinydd yr SNP, tra roedd Mr Murrell yn brif weithredwr y blaid.
Ym mis Ionawr y llynedd, cyhoeddodd Ms Sturgeon ei bod hi a Murrell wedi “penderfynu dod â’u priodas i ben”.