Cyn-archdderwydd ymysg rhai sydd yn 'pryderu am gyflwr' addysg hanes Cymru

Castell Caernarfon / Myrddin ap Dafydd

Mae'r cyn-archdderwydd Myrddin ap Dafydd ymhlith y 62 enw sydd yn "pryderu am gyflwr" addysg hanes Cymru.

Mewn llythyr at Weinidog Addysg a Chymraeg Llywodraeth Cymru, Anna Brychan, mae'r haneswyr ac academyddion yn dweud bod "tystiolaeth yn awgrymu bod gormod o ddisgyblion yng Nghymru yn gadael addysg gyda dim ond dealltwriaeth gyfyngedig o hanes eu gwlad eu hunain."

Ymysg y rhai sydd wedi llofnodi'r llythyr mae'r Athro Martin Johnes, yr Athro Syr Deian Hopkin, Dr Elin Jones, Dr Steve Thompson, Dr Aled Eirug a Dr Marion Löffler. 

Mae hanes Cymru yn rhan orfodol o’r Cwricwlwm i Gymru ers 2022, ar ôl i’r gofyniad gael ei gryfhau yn sgil cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn adolygu’r cwricwlwm i "sicrhau bod gan ysgolion ganllawiau clir i addysgu hanes Cymru".

'Heriau sylweddol'

Yn y llythyr mae'r academyddion yn dweud bod darpariaeth hanes Cymru yn "anghyson" mewn ysgolion ar hyn o bryd a bod angen i hynny newid ar frys.

"Nid mater ymylol yw hwn. Mae’n mynd at wraidd yr hyn y dylai addysg ei ddarparu fel hawl i’n pobl ifanc: ymdeimlad o le, hunaniaeth a pherthyn, ynghyd â’r wybodaeth a’r sgiliau i ymgysylltu’n feirniadol â’r byd ehangach.

"Ar hyn o bryd, mae darpariaeth hanes Cymru mewn ysgolion yn anghyson ac, mewn llawer o achosion, yn gyfyngedig iawn. Er bod Cwricwlwm i Gymru yn anelu at sicrhau bod dysgwyr yn profi hanes Cymru, nid yw’n diffinio’n glir beth ddylai hynny ei olygu yn ymarferol."

Mae'r llofnodwyr yn dweud eu bod yn pryderu am y sefyllfa ar lefel TGAU. 

"Ar hyn o bryd, dim ond cyfran fach o’r TGAU Hanes sy’n canolbwyntio ar Gymru, llawer llai nag mewn cymwysterau tebyg yn y gwledydd eraill yn y DU.

"Mae’r fanyleb TGAU Hanes newydd, sydd i’w chyflwyno ym mis Medi, mewn perygl o waethygu’r broblem hon. Heb ei hadolygu, bydd y cymhwyster hwn yn parhau i danseilio’r uchelgais i osod hanes Cymru wrth wraidd profiad dysgwyr.

"Fodd bynnag, ni fydd diwygio’r cwricwlwm yn unig yn ddigonol. Mae athrawon ar draws y sector cynradd ac uwchradd yn wynebu heriau sylweddol wrth addysgu hanes Cymru yn effeithiol."

Image
A yw pobl ifanc Cymru yn dysgu digon am hanes y wlad?
Mae yna alw ar y llywodraeth i fonitro sut mae hanes Cymru yn cael ei ddysgu

Mae'r academyddion yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i "gefnogi ymchwil i fonitro a gwerthuso sut mae hanes Cymru yn cael ei addysgu ar draws ysgolion a cholegau".

Maent hefyd yn dweud bod angen datblygu adnoddau addysg "o ansawdd uchel a chwricwla enghreifftiol."

Yn yr wrthblaid fe alwodd Plaid Cymru am wneud hanes Cymru yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd.

Fe wnaethon nhw bleidleisio yn erbyn y bil cwricwlwm newydd yn 2021, gan ddweud nad oedd yn rhoi unrhyw sicrwydd y byddai pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i ddysgu am hanes eu gwlad.

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cafodd y cynnig ei gryfhau yn dilyn y cytundeb cydweithio rhwng y ddwy blaid.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Gweinidog y Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan, ddweud y byddai'r llywodraeth yn cynnal adolygiad o'r cwricwlwm i wneud dysgu hanes Cymru mewn ysgolion yn "fwy penodol."

"Fi'n credu bydd cwricwlwm i Gymru yn dilyn yr adolygiad yma yn fwy penodol mewn sawl maes," meddai wrth Newyddion S4C.

"Dwi hefyd yn credu bod hanes Cymru a deall pwy i ni a deall ein cyfraniad ni adeiladu ar hwnna yn hanfodol bwysig i bobl ble bynnag maen nhw'n byw. 

"Mae hanes nhw yn greiddiol i pwy i nhw a shwt i ni wedyn yn adeiladu Cymru ar gyfer y dyfodol.

"Felly mae fe yn hanfodol bwysig ac yn greiddiol i sut i ni'n edrych ar ein system addysg ni."

Fe aeth Ms Brychan ymlaen i ddweud bod gwybodaeth athrawon o hanes Cymru yn "amrywio'n fawr" ar hyn o bryd.

"Falle bod o'n or-ddibynnol ar ddiddordeb a sgiliau athrawon unigol a bydd angen edrych ar hwnna," meddai.

"Ond dwi yn credu bod ‘na ysgolion, athrawon ymhob rhan o Gymru sydd eisoes wedi cael a mynd am y cyfle mae cwricwlwm i Gymru eisoes wedi ei roi iddyn nhw i wneud pethau creadigol a meddylgar iawn. 

"Felly mae tynnu ar hwnna yn mynd i fod yn bwysig i ni fi'n credu."

Yn 2021, daeth adroddiad gan gorff arolygu Estyn i'r casgliad fod gan fwyafrif disgyblion Cymru wybodaeth gyfyngedig am eu hardaloedd lleol. Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud eu bod nhw yn ei chael hi'n anodd cysylltu hanes Cymru â digwyddiadau byd-eang. 

Ymateb

Wrth ymateb i'r llythyr, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae’r llywodraeth newydd hon yn adolygu’r cwricwlwm i sicrhau bod gan ysgolion ganllawiau clir i addysgu hanes Cymru, sydd eisoes yn rhan orfodol o’r cwricwlwm, yn fanylach ac mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu ei bwysigrwydd i’n stori genedlaethol. Mae deall hanes Cymru yn hanfodol i roi’r hyder i bobl ifanc chwarae rhan lawn yn ein cymdeithas.

"Mae Adnodd, y sefydliad sydd wedi cael y dasg o ddatblygu adnoddau i ysgolion, eisoes yn gweithio gyda haneswyr i greu adnoddau. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Dysgu i ddeall pa elfennau dysgu proffesiynol sydd angen eu datblygu yn y maes hwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.