Cymru'n gobeithio taro'n ôl yn erbyn Denmarc ar ôl colli i Bortiwgal

bellamy.jpg

Fe fydd Cymru yn gobeithio taro’n ôl yn erbyn Denmarc nos Sul ar ôl colli i Bortiwgal yng ngêm agoriadol Adran A Cynghrair y Cenhedloedd nos Iau.

Er gwaethaf perfformiad addawol gan dîm Craig Bellamy yn erbyn Portiwgal yn Lisbon nos Iau, colli 1-0 oedd eu hanes. Gôl João Félix wnaeth sicrhau’r fuddugoliaeth i’r tîm cartref.

Fe wnaeth Denmarc golli 3-2 yn erbyn Norwy nos Iau hefyd, ac fe fyddan nhw’n gobeithio sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn yr ymgyrch.

Bydd y ddwy wlad yn wynebu ei gilydd yn Copenhagen ddydd Sul, gyda’r gic gyntaf am 17:00.

Fe ddaeth cyfle gorau Cymru i sgorio nos Iau i ymosodwr ifanc Lerpwl, Lewis Koumas. Bu’n rhaid i amddiffynnwr Manchester City, Rúben Dias, atal ei ymdrech ar y llinell.

Wrth siarad ar ôl y gêm nos Iau, fe ddywedodd Craig Bellamy: “Roedd hi’n gêm anodd i ni. Roedd yn rhaid i ni ddioddef dipyn.

“Dw i’n meddwl mai dyna’r hiraf rydyn ni wedi bod mewn gêm heb y bêl.

“Fe allen ni fod wedi gwneud mwy efo’r bêl ond dwi’n falch iawn hefyd.”

Fe fydd Cymru yn parhau heb Harry Wilson, Karl Darlow, Dylan Lawlor, Joe Rodon a Nathan Broadhead, sydd i gyd wedi eu hanafu.

Mae Cymru wedi wynebu Denmarc 11 gwaith yn flaenorol, gan ennill pedair gêm a cholli saith.

Y gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm oedd yn Euro 2020, pan enillodd Denmarc 4-0 i gyrraedd yr wyth olaf.

Ar ôl wynebu Denmarc, fe fydd Cymru yn herio Norwy gartref nos Iau cyn croesawu Denmarc i Gaerdydd nos Sul nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.