'Cymru'n cael cam': Gallai cynllun rheilffordd HS2 gostio mwy na £100bn
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y ffigurau diweddaraf ar gost HS2 yn dangos fod Cymru’n cael cam gan Lywodraeth y DU.
Daw wedi i Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan ddweud dydd Mawrth y gallai'r cynllun rheilffordd yn Lloegr gostio mwy na £100 biliwn, ac mae'n bosib na fydd yn agor tan 2039.
Dywedodd mai'r amcangyfrif bellach ar gyfer cost y cynllun rheilffordd cyflym yw rhwng £87.7 biliwn a £102.7 bilwn (ar sail prisiau 2025).
Wrth ymateb, dywedodd Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Cymru, Mark Hooper: “Mae’r ffigurau diweddaraf, sy’n dangos y gallai HS2 gostio hyd at £102.7 biliwn, yn ei gwneud yn gliriach nag erioed fod Cymru’n cael cam o ganlyniad i ddull gweithredu Llywodraeth y DU.
“Mae HS2 wedi’i ddosbarthu’n brosiect ‘Lloegr a Chymru’, er nad oes yr un centimetr o drac yn cael ei osod yng Nghymru. Nid yw hynny’n dderbyniol."
Y targedau
Yr amcangyfrif gwreiddiol yn 2011 ar gyfer adeiladu'r rheilffordd o Lundain i Birmingham oedd £32.7 biliwn. Roedd hynny'n cynnwys cynlluniau ar gyfer gwasanaethau i Leeds a Manceinion sydd wedi eu hepgor bellach.
Yn wreiddiol hefyd, roedd y gwasanaethau i fod i ddechrau yn 2026.
Y targed diwethaf oedd 2033, ond bellach rhwng Mai 2036 a Hydref 2039 yw'r amcangyfrif ar gyfer yr amserlen newydd.
Yn y siambr, cyfaddefodd Jerome Mayhew sy'n gyfrifol am drafnidaeth ar ran y Ceidwadwyr fod HS2 wedi wynebu trafferthion yn y dyddiau cynnar a bod cwmni HS2 Cyf wedi methu â rheoli'r gyllideb.
Ond dywedodd bod penodiad Prif Weithredwr newydd HS2 Ltd Mark Wild - o dan y Ceidwadwyr - yn golygu bod y sefydliad mewn gwell cyflwr.
Ychwanegodd y byddai'r Ceidwadwyr yn cefnogi unrhyw ymdrechion i leihau costau.
'Dyledus'
Mae Prif Weinidog newydd Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi nodi droeon nad yw Cymru yn cael bargen deg yn ariannol am ei bod yn gorfod talu am gynllun HS2 yn Lloegr.
Wedi ei sgwrs â Phrif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer yr wythnos diwethaf, pwysleisiodd Mr ap Iorwerth fod Plaid Cymru eisiau mwy o rymoedd i Gymru gan gynnwys pwerau dros reilffyrdd, a chyfiawnder am gynllun rheilffordd cyflym HS2, a newid y fformiwla Barnett, sef y ffordd mae Cymru’n cael ei hariannu.
Dywedodd Ann Davies AS o Blaid Cymru ddydd Mawrth fod gan y blaid fandad newydd gan bobl Cymru i ddatganoli rheilffyrdd i Gymru yn dilyn etholiad y Senedd yn gynharach y mis hwn.
"Mae tua £4 biliwn eisoes yn ddyledus i Gymru o ganlyniad i HS2 gael ei gam-ddosbarthu, ond os yw costau’r prosiect yn codi y tu hwnt i £100 biliwn fel y disgwylir, dim ond tyfu bydd maint yr anghyfiawnder hwnnw," meddai.
"Mae pob cynnydd yng ngwariant HS2 yn gwyro cyllid trafnidiaeth ymhellach i ffwrdd o Gymru, gan leihau’r gyfran a dderbyniwn ar draws cyllideb ehangach Adran Drafnidiaeth y DU - gan gynnwys tanariannu seilwaith rheilffyrdd Cymru mewn penderfyniadau gwariant yn y dyfodol."
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad diweddaraf am gost Hs2, dywedodd David Chadwick AS ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn San Steffan bod trethdalwyr ar hyd a lled y DU bellach yn gorfod "talu'r bil" ar gyfer y cynllun.
"Fan lleia', mae angen i Gymru nawr dderbyn cyllid sy'n ddyledus iddi er mwyn i ni fuddosddi yn ein hisadeiledd ym maes trafnidiaeth yma," meddai.
