Cymru i wynebu tîm o Affrica am y tro cyntaf ers bron i 30 mlynedd
Fe fydd tîm cenedlaethol dynion Cymru yn wynebu tîm o Affrica am y tro cyntaf ers bron i 30 mlynedd.
Bydd tîm Craig Bellamy yn wynebu Ghana am y tro cyntaf erioed mewn gêm rynglwadol dynion yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 2 Mehefin.
Mae gan Ghana rai o sêr y byd pêl-droed, gan gynnwys Antoine Semenyo, Inaki Williams a Mohammed Kudus.
Mae Ghana eisoes wedi cadarnhau eu lle yng Nghwpan y Byd FIFA dros yr haf, lle byddant yn wynebu Lloegr, Croatia a Panama yn eu grŵp.
Y tro diwethaf, a’r unig dro, i Gymru chwarae yn erbyn gwlad o Affrica yng ngêm y dynion oedd ym Mehefin 1998 yn erbyn Tunisia.
Roedd y prif hyfforddwr presennol Craig Bellamy yn chwarae yn y gêm honno.
Mae breuddwyd Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd yn parhau yn fyw, ond fe fydd yn rhaid iddyn nhw ennill dwy gêm dyngedfennol ym mis Mawrth i gyrraedd y gystadleuaeth.
Bydd tîm Bellamy yn wynebu Bosnia a Herzegovina ar nos Iau 26 Mawrth, ac os byddant yn ennill, bydd Cymru wedyn yn wynebu’r Eidal neu Ogledd Iwerddon yn rownd derfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd.
