Cymru i wynebu Montenegro yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2027

Cymru v Tsiec

Bydd Cymru yn ceisio adeiladu ar eu perfformiad yng ngêm agoriadol rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2027 pan fyddan nhw'n wynebu Montenegro yn yr ail gêm yn yr ymgyrch ddydd Sadwrn. 

Fe gafodd Gymru gêm gyfartal yn eu gêm gyntaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd a hynny oddi cartref yn erbyn y Weriniaeth Tsiec. 

Fe fydd tîm Rhian Wilkinson yn herio Montenegro yn Llanelli am 16:30 brynhawn Sadwrn. 

Gyda phedair munud o amser ychwanegol yn weddill yn y gêm yn erbyn y Weriniaeth Tsiec nos Fawrth, fe lwyddodd Elise Hughes i fachu gôl hwyr ym munudau olaf y gêm, gyda pheniad gwych i sicrhau gêm gyfartal. 

Dywedodd Hughes mai'r bwriad bellach i ennill pob gêm sy'n weddill yn y rowndiau rhagbrofol. 

"Does dim esgusodion i ni beidio â cheisio ennill pob gêm yn y grŵp, a byddwn ni'n mynd adref, yn ailosod ac yn edrych ymlaen at chwarae gartref eto," meddai.

"Rydan ni'n ceisio gwneud yn iawn am bethau a sicrhau tri phwynt a gorffen y rhan yma o'r ymgyrch yn gadarnhaol."

Mae'r chwe gêm yn yr ymgyrch, sef tair gêm gartref a thair oddi cartref, yn cael eu chwarae ym misoedd Mawrth, Ebrill a Mehefin.

Ymunodd Jess Fishlock â thim hyfforddi Cymru ar gyfer y gêm agoriadol.

Fe wnaeth prif sgoriwr Cymru ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Hydref, ond mae'n parhau i chwarae i dîm Seattle Reign yn America. 

Mae timau Ewrop wedi eu gwahanu i mewn i dair cynghrair, A, B a C, gyda hyd at 12 tîm yn gallu cyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth.

Fe fydd enillwyr y pedwar grŵp yng Nghynghrair A yn sicrhau eu lle yn awtomatig ar gyfer Cwpan y Byd Brasil 2027, ond fe fydd yn rhaid i’r gweddill o’r timau barhau i frwydro am le drwy’r gemau ail gyfle.

Yn rhan o Gynghrair B, fe fydd Cymru yn ceisio ennill eu lle ar frig eu grŵp, sef B1, er mwyn sicrhau llwybr mwy ffafriol yn y gemau ail gyfle.

Fe fydd yna ddwy rownd o gemau ail gyfle, gyda saith tîm yn hawlio eu lle ym Mrasil yn y pen draw, tra bod yna gyfle i wythfed tîm gymhwyso drwy gêm ail gyfle yn erbyn gwlad o gyfandir gwahanol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.