Cymru v Gogledd Iwerddon: Beth nesaf i dîm Craig Bellamy?
Wedi'r torcalon o golli yn erbyn Bosnia Hertzegovina nos Iau, gan olygu fod y freuddwyd o gyrraedd Cwpan y Byd ar ben, fe fydd Cymru yn wynebu Gogledd Iwerddon mewn gêm gyfeillgar nos Fawrth.
Colli ar giciau o'r smotyn oedd hanes Craig Bellamy yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle.
Fe gollodd Gogledd Iwerddon yn erbyn Yr Eidal hefyd, gan olygu bellach fod yn rhaid iddyn nhw deithio i Gaerdydd ar gyfer y gêm gyfeillgar nos Fawrth.
Gyda'r freuddwyd o gyrraedd Cwpan y Byd ar ben, beth sydd nesaf i dîm Craig Bellamy, a'r rheolwr ei hun?
Mae yna gryn sôn wedi bod am ddyfodol Bellamy yn dilyn y gêm nos Iau gyda sawl adroddiad wedi bod fod Celtic, cyn glwb Bellamy, wedi dangos diddordeb yn ei benodi fel rheolwr y clwb dros y misoedd diwethaf.
Ym mis Ionawr, fe ddywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney, nad oedd ymgais swyddogol wedi ei wneud gan y clwb i'w ddenu i Glasgow, ond fe wnaeth gydnabod bod gan glybiau "ddiddordeb" mewn Bellamy.
Fe arwyddodd Bellamy gytundeb pedair blynedd pan y cafodd ei benodi ym mis Gorffennaf 2024, a gyda Euro 2028 yn cael ei gynnal yng Nghymru, Yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon a Lloegr, mae posibilrwydd y gallai Bellamy aros tan hynny.
Mae cwestiynau wedi cael eu codi hefyd am ddyfnder carfan Cymru.
Fe gollodd y capten Aaron Ramsey yr ymgyrch gyfan, gyda amddifynnwr Tottenham Hotspur Ben Davies wedi'i anafu ar gyfer rhan olaf yr ymgyrch a'r gemau ail-gyfle.
Roedd Connor Roberts hefyd yn absennol, yn ogystal â Chris Mepham a Kieffer Moore, gan olygu fod Cymru yn methu gwerth 354 o gapiau yn eu carfan ar gyfer y gemau ail-gyfle.
Er hyn, roedd perfformiad amddiffynnwr Caerdydd Dylan Lawlor yn hwb i Gymru a'r cefnogwyr, gyda'r chwaraewr 20 oed yn sicr yn un ar gyfer y dyfodol yn ogystal â'r presennol.
Mae yna ergyd ariannol o ganlyniad i'r golled yn erbyn Bosnia hefyd, wedi i Gymru ennill o gwmpas £10m o Gwpan y Byd 2022.
Er hyn, mae'r ffaith y bydd sawl gêm Euro 2028 yn cael ei chynnal yng Nghymru yn sicr o fod yn hwb i dîm Craig Bellamy ar ac oddi ar y cae.
Ond mae Uefa wedi cadarnhau y bydd angen i Gymru fynd drwy gemau rhagbrofol i gyrraedd Euro 2028.
Bydd Stadiwm Principality Caerdydd yn gartref i'r gêm agoriadol ar 9 Mehefin.
Wrth siarad ar ôl y gêm nos Iau, dywedodd Bellamy: "Mae gennym ni Ewros gartref i edrych ymlaen ato, felly mae'n amser cyffrous.
"Roeddem ni eisiau bod yng Nghwpan y Byd yr haf hwn, ond mae'r dyfodol yn ddisglair, mae yna flynyddoedd da i ddod i Gymru."