Cymru Premier JD: Y Bala yn ceisio osgoi'r cwymp yn y brifddinas
Tair rownd o gemau sydd ar ôl yn nhymor y Cymru Premier JD, ac mae’r cyffro’n cynyddu yn y Chwech Isaf.
Yn dilyn buddugoliaeth annisgwyl gartref yn erbyn Hwlffordd y penwythnos diwethaf, mae’r Bala’n parhau i ymladd i osgoi’r cwymp, gyda phum pwynt yn gwahanu tîm Steve Fisher a’r ddau glwb uwch eu pennau, sef Y Fflint a Met Caerdydd.
Mae Llansawel a Hwlffordd yn hafal ar bwyntiau ac ar wahaniaeth goliau yn y ras i orffen yn 7fed, a bydd y ddau glwb yn cyfarfod mewn gêm dyngedfennol ar Ddôl y Bont ddydd Sadwrn.
Mae’r Seintiau Newydd wedi sicrhau eu pumed bencampwriaeth yn olynol, ac mae Cei Connah wedi hawlio’r ail safle, ac felly bydd y ddau glwb yn cynrychioli Cymru yn Ewrop dros yr haf.
Fis nesaf, bydd Caernarfon a’r Fflint yn cystadlu am y trydydd tocyn i Ewrop yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD, ac yna bydd y pedwerydd safle Ewropeaidd yn mynd i enillwyr y gemau ail gyfle.
CHWECH UCHAF
Pen-y-bont (5ed) v Bae Colwyn (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
Ar ôl dechrau’r ymgyrch yn gryf, mae tymor Pen-y-bont wedi mynd ar chwâl ers mis Tachwedd.
Dechreuodd y dymchwel ar Ffordd Llanelian ym mis Tachwedd gyda’r Gleision yn colli o 5-4 yn erbyn Bae Colwyn, ac ers hynny dyw Pen-y-bont m’ond wedi ennill unwaith mewn 13 o gemau (vs Llanelli).
Dyw Pen-y-bont heb guro clwb o’r Chwech Uchaf ers mis Medi (vs Bae Colwyn), a dyw tîm Rhys Griffiths heb sgorio mwy nac unwaith mewn gêm ers y golled o 5-4 yn erbyn Gwylanod Mike Wilde ym mis Tachwedd.
Mae Bae Colwyn yn mynd o nerth i nerth ac wedi dringo i’r 3ydd safle ar ôl buddugoliaethau safonol yn erbyn Y Barri a’r Seintiau Newydd.
Mae’r Gwylanod wedi ennill tair o’u pedair gêm ddiwethaf, gyda’r gwrthwynebwyr yn gweld cerdyn coch ym mhob un o’r tair buddugoliaeth rheiny.
Mae Bae Colwyn wedi ennill eu dwy ornest ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont gan sgorio wyth o goliau, yn cynnwys hatric gan Jordan Davies ar Ffordd Llanelian.
Record cynghrair diweddar:
Pen-y-bont: ➖❌❌❌❌
Bae Colwyn: ͏❌✅❌✅✅
CHWECH ISAF
Hwlffordd (8fed) v Llansawel (7fed) | Dydd Sadwrn – 12:30 (Yn fyw arlein)
Fedr hi ddim bod llawer tynnach rhwng Hwlffordd a Llansawel yn y ras i gyrraedd y gemau ail gyfle gan fod y ddau dîm yn hafal ar bwyntiau a gwahaniaeth goliau.
Llansawel sy’n dechrau’r penwythnos yn y 7fed safle hollbwysig, ac hynny m’ond am iddyn nhw sgorio un gôl yn fwy na Hwlffordd y tymor hwn.
Gemau olaf:
Hwlffordd: Y Fflint (oc), Llanelli (c)
Llansawel: Met Caerdydd (c), Y Bala (oc)
Bydd Llansawel yn llawn hyder gan i’r Cochion golli dim ond un o’u 10 gêm ddiwethaf (ennill 6, cyfartal 3), a bydd tîm Andy Dyer yn gobeithio cystadlu yn y gemau ail gyfle am y tro cyntaf erioed.
Mae Hwlffordd wedi cadw saith llechen lân yn eu 10 gêm ddiwethaf, a bydd yr Adar Gleision yn anelu i ennill y gemau ail gyfle am yr ail dymor yn olynol.
Mae tîm Tony Pennock wedi curo Llansawel ddwywaith y tymor hwn, ond y Cochion oedd yn fuddugol ar Ddôl y Bont ym mis Ionawr gyda Ollie Anderson a Thomas Walters yn sgorio goliau gwych mewn buddugoliaeth o 3-2 i Lansawel.
Record cynghrair diweddar:
Hwlffordd: ✅✅❌✅❌
Llansawel: ͏➖✅✅✅➖
Y Fflint (10fed) v Llanelli (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Y Fflint yw’r unig glwb sydd heb golli gêm gynghrair ers yr hollt (ennill 3, cyfartal 4), ond dyw’r Sidanwyr yn dal ddim yn saff o’r cwymp eto.
Dylai buddugoliaeth i dîm Lee Fowler gartref yn erbyn y clwb isa’n y tabl fod yn ddigon i sicrhau eu lle yn y gynghrair am dymor arall, oni bai bod Y Bala’n llwyddo i guro Met Caerdydd.
Gemau olaf:
Y Fflint: Hwlffordd (c), Met Caerdydd (oc)
Llanelli: Y Bala (c), Hwlffordd (oc)
Gyda dim ond dwy fuddugoliaeth mewn 29 gêm gynghrair, a dim ond 10 pwynt ar y bwrdd, mae hi wedi bod yn ymgyrch eithriadol o siomedig i Lanelli sydd yn sicr o syrthio ar ddiwedd y tymor.
Mae’r Fflint wedi ennill eu tair gornest flaenorol yn erbyn Llanelli y tymor hwn gan gadw tair llechen lân (Lli 0-5 Ffl, Ffl 4-0 Lli, Lli 0-2 Ffl), a’r blaenwr bywiog Elliott Reeves sydd wedi sgorio saith o’r 11 gôl i’r Sidanwyr yn erbyn y Cochion.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ➖➖✅➖➖
Llanelli: ➖❌➖❌❌
Met Caerdydd (9fed) v Y Bala (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r frwydr bron ar ben i’r Bala, gan y byddai colled yn y brif ddinas brynhawn Sadwrn yn gallu bod yn ddigon i yrru’r clwb i’r ail haen.
Pe bae Met Caerdydd yn curo’r Bala, a’r Fflint yn curo Llanelli, yna mi fyddai tîm Steve Fisher yn sicr o orffen yn yr 11eg safle, gan gadarnhau eu cwymp i Gynghrair y Gogledd.
Gemau olaf:
Met Caerdydd: Llansawel (oc), Y Fflint (c)
Y Bala: Llanelli (oc), Llansawel (c)
Mae’r Bala wedi bod yn aelodau o’r uwch gynghrair ers 16 mlynedd, ac o’r clybiau presennol, Y Seintiau Newydd yw’r unig glwb arall sydd wedi aros yn y gynghrair yn ddi-dor ers tymor cynta’r Bala yn 2009/10.
Llwyddodd Y Bala i drechu Hwlffordd o 1-0 ddydd Sadwrn diwethaf gan hawlio eu buddugoliaeth gyntaf ers yr hollt, ond mae’n bosib ei bod hi’n rhy hwyr i Hogiau’r Llyn.
Mae Met Caerdydd ymhell o fod yn ddiogel ar ôl ennill dim ond ddwywaith mewn 14 gêm, a’r ddwy fuddugoliaeth yn dod yn erbyn y clwb ar waelod y tabl, Llanelli.
Byddai colled i dîm Ryan Jenkins brynhawn Sadwrn yn eu gadael m’ond dau bwynt uwchben safleoedd y cwymp, ond byddai buddugoliaeth i’r myfyrwyr yn ddigon i sicrhau eu lle’n y gynghrair ar gyfer y tymor nesaf.
Record cynghrair diweddar:
Met Caerdydd: ➖➖❌❌✅
Y Bala: ❌❌➖➖✅