Y Cymro Eric Ramsay wedi ei ddiswyddo gan West Brom
Mae'r Cymro Eric Ramsay wedi cael ei ddiswyddo gan West Bromwich Albion wedi naw gêm yn unig.
Mae'r clwb wedi colli pob un o'r naw gêm yma ac ar hyn mae nhw'n safle 21 yn y Bencampwriaeth.
Cafodd Ramsay ei benodi i'r swydd ar 11 Ionawr wedi i Ryan Mason adael y clwb.
Ond gyda West Brom un safle uwchben y safleoedd disgyn yn y Bencampwriaeth mae'r clwb wedi penderfynu diswyddo Ramsay.
Mae cyfnod Ramsay fel rheolwr West Brom yn un o'r rhai byrraf yn hanes y Bencampwriaeth - roedd yn y swydd am 44 diwrnod yn unig.
Ymunodd â'r clwb wedi cyfnod yn America fel rheolwr Minnesota United.
Cyn hynny roedd yn hyfforddwr gyda Manchester United ac yn rheolwr cynorthwyol gyda Chymru.
Dywedodd West Brom y bydd James Morrison yn rheolwr dros dro ar y clwb tra eu bod yn chwilio am reolwr newydd.