Cymeradwyo cynllun i ehangu Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd
Mae cynlluniau wedi cael eu cymeradwyo i ehangu adeilad Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth Cyngor Gaerdydd gymeradwyo cynlluniau i ddymchwel yr adeilad drws nesaf i'r clwb nos ar 9 Stryd Womanby.
Fe fydd Clwb Ifor Bach yn ehangu'r adeilad i'r gwagle hwnnw.
Dan y cynlluniau fe fydd Clwb Ifor Bach yn adeilad pum llaw ac yn cynnwys teras ar y to. Bydd cyfleusterau gwell, gan gynnwys mynediad gwell i gerddorion at lwyfannau a mwy o "hygyrchedd, diogelwch a chynaliadwyedd".
Cafodd y cynlluniau eu cyflwyno gyntaf yn 2019, a'r gobaith yw creu digon o le i gael 500 o bobl ar y llawr gwaelod a 250 ar yr ail lawr.
Mae Clwb Ifor Bach yn adnabyddus am gefnogi'r sin gerddoriaeth Gymraeg.
Yn ôl y dogfennau cynllunio dydy Clwb Ifor Bach ddim am golli "ysbryd" y clwb a agorodd yn 1983.
"Fel cartref i gerddoriaeth wreiddiol a pherfformiadau byw gan eich hoff artistiaid a bandiau newydd sydd heb eu darganfod eto, rydym yn ceisio datblygu talent a sgiliau o fewn y diwydiant ochr yn ochr â thyfu cynulleidfaoedd," meddai'r dogfennau cynllunio.
