Cyhuddo tri o Gymru wedi ymchwiliad i fewnforio gwerth £139m o ganabis
Mae tri o bobl o Gymru wedi’u cyhuddo fel rhan o ymchwiliad i honiadau o fewnforio canabis o Ganada i’r DU.
Mae Daniel Gould-Lewis, 37 oed, o Gaerffili; Gavin Davies, 45 oed, o Lyn Ebwy; a Heidi Phillips, 36 oed, o Ferthyr Tudful, wedi’u cyhuddo o fod yn ymwneud â mewnforio canabis, cynllwynio i gyflenwi canabis, gwyngalchu arian a bod yn ymwneud â mewnforio arf gwaharddedig.
Mae Gould-Lewis hefyd wedi’i gyhuddo o ddau achos o feddu ar gyffuriau Dosbarth A, sef heroin a chocên, gyda’r bwriad o’u cyflenwi.
Cafodd y tri eu harestio ddydd Mawrth gan swyddogion Uned Troseddau Rhanbarthol y De-orllewin, gyda chefnogaeth gan Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.
Mae'r tri wedi eu harestio ar ôl i swyddogion ddarganfod 12 tunnell o ganabis oedd werth tua £139m, oedd wedi ei bacio mewn bocsys ar gyfer ei allforio o Ganada i borthladd Southampton.
Mae’r tri wedi cael eu cadw yn y ddalfa, gyda disgwyl iddynt ymddangos yn Llys Ynadon Bryste ddydd Iau.
