Cyhuddo person wedi digwyddiad mewn pentref ger Pwllheli
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi fod person wedi'i gyhuddo mewn cysylltiad â digwyddiad yn ardal Trefor, Gwynedd.
Cafodd plismyn eu galw i'r pentref rhwng Pwllheli a Chaernarfon tua 18:00 nos Wener.
Dyw'r llu ddim wedi datgelu manylion am y digwyddiad ei hun, ond maen nhw'n annog pobl i beidio â dyfalu a chyhoeddi unrhyw honiadau ar gyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd iddyn nhw gyrraedd y safle yn gyflym, a bod unigolyn wedi ei arestio yn fuan wedi hynny.
Mae e bellach wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa cyn gwrandawiad llys maes o law.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Jones o’r Adran Ymchwilio i Droseddau'r Gorllewin: "Mae ymholiadau i'r digwyddiad yn parhau, ac felly bydd presenoldeb heddlu yn parhau yn yr ardal heddiw. Fodd bynnag, hoffem roi sicrwydd i drigolion nad oes risg ehangach i'r cyhoedd.
"Rydym yn ymwybodol o ddyfalu sy'n cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â'r digwyddiad.
"Byddem yn annog aelodau'r cyhoedd i beidio â dyfalu gan y gall hyn achosi pryder diangen a gall effeithio ar ymchwiliadau parhaus."
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo eu hymholiadau i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 neu wasanaeth sgwrsio byw eu gwefan, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 26000871650.