Cyhuddo pedwerydd person ar ôl i ddyn ifanc farw yng Ngorseinon

Ceiran Evans

Mae pedwerydd person wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 18 oed mewn gwrthdrawiad ar ffordd yng Ngorseinon ym mis Gorffennaf.

Cafodd Trisha Thomas, 36 oed, o Orseinon, ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr fore Mercher, ac mae hi bellach wedi cael ei chyhuddo o’r un drosedd.

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Pen Cae Crwn am tua 13.00 ddydd Iau, 9 Gorffennaf, yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng car a beic oddi ar y ffordd.

Bu farw Ceiran Evans, o Gorseinon, yn y fan a’r lle. Cafodd dyn arall, 19 oed, ei gludo i’r ysbyty gyda mân anafiadau.

Cafodd Tyler Ford, 18 oed, o Dreforys, ei gyhuddo o lofruddio Ceiran Evans ac o geisio llofruddio dioddefwr arall ar ôl y gwrthdrawiad.

Cafodd Elliot Truelove, 33 oed, o West Cross, Abertawe, a Liam Thomas, 18 oed, o Dreforys, Abertawe, hefyd eu cyhuddo o lofruddiaeth ac o geisio llofruddio mewn cysylltiad â’r un digwyddiad.

Bydd Ford, Liam Thomas a Truelove yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar Fedi 29.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.