Cyhuddo dyn 18 oed o Gaerdydd wedi achos o drywanu yn y Barri
Mae dyn 18 oed o Gaerdydd wedi'i gyhuddo mewn cysylltiad ag achos o drywanu ar Ynys y Barri ar ddydd Llun gŵyl y banc.
Fe wnaeth bachgen 17 oed o'r brifddinas ddioddef anafiadau difrifol sy'n newid ei fywyd yn ystod y digwyddiad.
Mae'n parhau i dderbyn gofal critigol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar ôl gorfod cael llawdriniaeth i dorri ei goes i ffwrdd.
Mae Idris Ahmed, 18 oed, wedi'i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad, ac o fod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Caerdydd fore Sadwrn.
Mae wedi gwadu'r honiadau yn ei erbyn.
Mae wedi ei gadw yn y ddalfa tan iddo ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 3 Gorffennaf ar gyfer gwrandawiad rhagarweiniol.
Dywedodd yr heddlu fod y dioddefwr a'i deulu wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.
Mae’r ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau.
Llun: Google Maps