Cyhuddo dau yn rhagor ar ôl i ddau fachgen 17 oed o Gaerdydd gael eu harestio yng Ngwlad Thai
Mae dau berson arall wedi cael eu cyhuddo ar ôl i ddau fachgen 17 oed o Gaerdydd gael eu harestio yng Ngwlad Thai.
Fe wnaeth Heddlu'r De ddechrau ymchwiliad ym mis Mehefin wedi iddi ddod i'r amlwg fod dau fachgen 17 oed o Gaerdydd wedi cael eu harestio yng Ngwlad Thai.
Fe gafodd yr ymchwiliad ei lansio i'r amgylchiadau a arweiniodd at y bobl ifanc yn teithio i'r wlad.
Dywedodd y llu ddydd Iau fod pedwar o bobl wedi eu cyhuddo, ac mewn diweddariad nos Wener, dywedodd yr heddlu fod dau berson arall wedi eu cyhuddo.
Mae Tremaine Jeanne, 28 oed o Lanrhymni, wedi ei gyhuddo o gynllwynio yn dwyllodrus i osgoi gwaharddiad ar fewnforio cyffur dosbarth B, a phedwar cyhuddiad o gynllwynio i drefnu i berson arall deithio gyda’r bwriad o gamfanteisio.
Mae Jessica Sani, 28 oed o Gasnewydd, hefyd wedi ei chyhuddo o gynllwynio yn dwyllodrus i osgoi gwaharddiad ar fewnforio cyffur dosbarth B, a phedwar cyhuddiad o gynllwynio i drefnu i berson arall deithio gyda’r bwriad o gamfanteisio.
Mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa ac mae disgwyl iddynt ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth.
Mae chwech o bobl bellach wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.
Fe wnaeth tri dyn ac un menyw ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener.
Mae Levi Mohamed, 20 oed, Patrick O’Driscoll, 30 oed, a Gareth Press, sy'n 42 oed, yn parhau yn y ddalfa, ac mae Ffion Bowes-Cavanagh Hooley, 24, ar fechnïaeth y llys.
Byddant yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 4 Medi.
Mae'r ddau fachgen 17 oed yn parhau yn y ddalfa yng Ngwlad Thai ac yn cael eu cefnogi gan eu teuluoedd a'r Swyddfa Dramor.