Cyhuddo chwech arall ar ôl anhrefn Southampton yn sgil llofruddiaeth Henry Nowak

Henry Nowak
Henry Nowak

Mae chwech o bobl eraill wedi’u cyhuddo yn dilyn anhrefn yn Southampton yn sgil llofruddiaeth Henry Nowak.

Dywedodd Heddlu Hampshire fod Kevin Reeves, 31 oed; Andrew Riddett, 38 oed; Harry Varney, 34 oed; Taylor Grundy, 22 oed; a Dillon Crawford, 29 oed wedi’u cyhuddo o anhrefn treisgar, gan ddod â chyfanswm nifer y bobl sydd wedi’u cyhuddo i 11.

Ychwanegodd yr heddlu fod Andrew Summerhayes, 38 oed, wedi’i gyhuddo o anhrefn treisgar a dau achos o fod ag arf ymosodol yn ei feddiant.

Bydd pob un ohonynt yn ymddangos yn Llys Ynadon Southampton fore Sadwrn.

Nos Fawrth roedd protestiadau yn Southampton ar ôl i ddeunydd fideo o'r camerâu roedd yr heddlu yn ei wisgo wrth ymateb i lofruddio Henry Nowak gael ei ryddhau, gan ddangos y myfyriwr 18 oed yn cael ei roi mewn cyffion ar ôl cael ei drywanu ym mis Rhagfyr.
 
Roedd y deunydd hefyd yn dangos Mr Nowak yn dweud wrth yr heddlu nad oedd yn gallu anadlu, cyn iddo syrthio'n anymwybodol a marw'n ddiweddarach.
 
Roedd y dyn oedd wedi ei drywanu, Vickrum Digwa, wedi dweud wrth yr heddlu bod Mr Nowak wedi ymosod yn hiliol arno, ond celwydd oedd hyn.
 
Cafodd Digwa ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio Mr Nowak ddydd Llun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.