Cyhuddiad o drefnu ymosodiad ar Farage i ddyn sydd dan amheuaeth o ladd Ann Widdecombe
Mae'r dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio'r gwleidydd Ann Widdecombe wedi cael ei gyhuddo hefyd o gynllunio ymosodiad terfysgol ar Nigel Farage.
Mae Joshua Kerry, 28, yn wynebu cyhuddiad o baratoi gweithredoedd terfysgol mewn cysylltiad â gweithgareddau honedig rhwng 31 Mai 2024 a 8 Gorffennaf 2026, yn ôl swyddogion gwrth-derfysgaeth.
Bu farw Ms Widdicombe, oedd yn llefarydd ar ran Reform UK ac yn gyn-weinidog Ceidwadol, ar ôl cael ei tharo 21 gwaith ar ei phen gyda morthwyl yn ei chartref yn Nyfnaint, yn ôl gwrandawiad llys blaenorol.
Mae Mr Kerry, sy'n dod o Rotherham yn Ne Sir Efrog, yn wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth yn achos Ms Widdicombe, 78.
Dywedodd yr uwch gydlynydd cenedlaethol ar gyfer yr Heddlu Gwrth-derfysgaeth (CTP), y Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Vicki Evans: "Rydyn ni wedi bod yn cynnal ymchwiliad hynod ddwys a chymhleth ers peth amser.
"Mae'r cyhuddiad a gyhoeddwyd heddiw o ganlyniad i waith diflino ymchwilwyr ar draws rhwydwaith yr Heddlu Gwrth-derfysgaeth.
"Mae'r ymchwiliad hwn wedi'i arwain gan dîm ymroddedig o dditectifs, dadansoddwyr ac arbenigwyr fforensig, yn gweithio ar nifer o linellau ymchwilio, ac mae hyn wedi arwain at y cyhuddiad difrifol hwn."
Mae disgwyl i Mr Kerry ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Shabana Mahmood fod ei "chydymdeimlad dwfn" gyda Mr Farage a'i deulu, a dywedodd fod y datblygiad "yn codi cwestiynau difrifol ynghylch diogelwch y rhai sy'n ymwneud â bywyd cyhoeddus".
