Cyhoeddi Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Môn 2026
Mae saith o wirfoddolwyr o Ynys Môn wedi cael eu henwi yn Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2026.
Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod ymweld â’r ynys ers 2004.
Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026:
- Alwen Jones (Amlwch)
- Ann Peters Jones (Bodedern)
- Derek Evans (Llannerch-y-medd)
- Edward Morus Jones (Llangristiolus)
- Grês Pritchard (Llannerch-y-medd)
- Helen Evans (Talwrn)
- Rhian Lloyd Jones (Bodffordd)
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydol Urdd Gobaith Cymru, bod y saith wedi rhoi “blynyddoedd o gefnogaeth i’r mudiad.”
“Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hollbwysig yng ngwaith yr Urdd, ac edrychwn ymlaen yn arw at gydnabod ymrwymiad a gwaith y saith mewn seremoni arbennig ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Sul, 24 Mai.”
Llywyddion Anrhyeddus Eisteddfod yr Urdd 2026
Ymhlith y saith mae Alwen Jones o Amlwch wedi bod yn weithgar gyda’r Urdd ers ei dyddiau ysgol, gan wasanaethu am chwarter canrif fel ysgrifennydd rhanbarth a chwarae rhan allweddol yn Eisteddfod 2004.
Daw Ann Peters Jones o Fodedern. Mae’n gerddor ac yn hyfforddwraig brofiadol sydd wedi gweithio ym maes addysg a pherfformio, ac wedi cefnogi eisteddfodau fel cyfeilydd a beirniad ers blynyddoedd.
Mae Derek Evans yn gyn-athro a phennaeth ysgol o Llannerch-y-medd sydd wedi cyfrannu’n helaeth i waith yr Urdd yn lleol ac ar lefel sirol, gan gynnwys cadeirio Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd 2004.
Mae Edward Morus Jones o Langristiolus wedi bod yn rhan o’r Urdd ers bron i 75 mlynedd, gan wasanaethu ar sawl lefel gan gynnwys fel Is-Lywydd cenedlaethol.
Un o Lannerch-y-medd yw Grês Pritchard. Mae’n gerddor amlwg sydd wedi hyfforddi cenedlaethau o blant ac wedi derbyn MBE am ei gwasanaeth i gerddoriaeth a’r gymuned.
Mae Helen Evans yn dod o Dalwrn wedi ymroi i’r Urdd drwy ei gwaith fel athrawes ac arweinydd dros ddegawdau, gan gefnogi gweithgareddau lleol a rhanbarthol.
Y seithfed i gael ei hanrhydeddu yw Rhian Lloyd Jones o Fodffordd sy’n gerddor ac athrawes sydd wedi hyfforddi a chyfeilio i nifer fawr o bobl ifanc, ac wedi bod yn weithgar mewn eisteddfodau’r Urdd ar hyd y blynyddoedd.
Am y tro cyntaf, bydd yr Eisteddfod yn cael ei ymestyn i fod yn ŵyl saith diwrnod, ac yn cael ei chynnal yng Nghae Primin Môn rhwng dydd Sadwrn, 23 Mai a dydd Gwener, 29 Mai.